20.
20
+ _

Cwestiwn Dadansoddi Data

Mae ‘SAM’ ar Curiosity wedi llwyddo i ddadansoddi samplau o'r atmosffer o amgylch Mawrth i ddarganfod pa nwyon sy'n bresennol. Mae'r rhain i'w gweld yn y siart bar sy'n dilyn.

Mae'r gronynnau nwy yn atmosffer Mawrth yn fwy gwasgaredig na'r gronynnau nwy yn atmosffer y Ddaear. Ffordd arall o ddweud hyn yw bod atmosffer Mawrth yn llai dwys nag atmosffer y Ddaear. Mae hynny'n golygu nad yw cystal o ran amddiffyn y blaned rhag ymbelydredd yr haul a phelydrau cosmig.

Ym mis Rhagfyr 2014, cafodd Curiosity hyd i symiau bach iawn o fethan yn yr atmosffer o amgylch Crater Gale. Roedd hwn yn ganfyddiad pwysig iawn.

Ymarfer Ymchwil

Defnyddiwch y fideo ar y tudalen hwn, a'r wybodaeth ar y tudalen ym mhen draw'r ddolen isod, i'ch helpu i ysgrifennu paragraff i'r papur newydd lleol i esbonio pam roedd darganfod methan ar y blaned Mawrth mor bwysig.

Darllen am fethan

Rhagor o wybodaeth!

Hoffech chi wybod unrhyw beth arall am y sylweddau cemegol ar y blaned Mawrth? Holwch Dr C!

Mynnwch ragor o wybodaeth >