2
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 2

Gweithgaredd Ymarferol Roced

Yn y gweithgaredd ymarferol hwn byddwch yn gwneud roced! Ar ben hynny, byddwch yn rhoi tanwydd yn y roced i'w weld yn codi! Cafodd y math yma o roced ei greu am y tro cyntaf gan bobl yn Tsieina tua mil o flynyddoedd yn ôl

Beth fydd ei angen? (Cyfarpar):

Diogelwch:

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Beth mae angen ei wneud? (Dull):

  1. Rhowch y bicarbonad sodiwm yn y canister ffilm.
  2. Defnyddiwch biped i ychwanegu tuag 1cm3 o ddŵr.
  3. Cyn gynted ag y gallwch, ffitiwch y clawr neu'r caead ar y canister, a sicrhau ei fod wedi'i selio'n dynn.
  4. Trowch y canister wyneb i waered a'i osod ar wyneb gwastad. Sefwch yn ôl!

Beth fyddwch chi'n ei weld? (Canlyniadau/Arsylwadau):

Nodwch yr hyn rydych chi wedi'i weld.

Beth ddigwyddodd, a pham? (Casgliad):

Allwch chi weithio allan beth ddigwyddodd?

Gall fod rhaid ichi chwilio i weld beth sy'n digwydd pan fydd dŵr yn adweithio gyda bicarbonad sodiwm