Mae planhigion yn gallu rhoi mathau gwahanol o ddeunyddiau bwyd inni. Weithiau, dail y planhigion sy'n cael eu bwyta, er enghraifft letys a bresych. Bryd arall y gwreiddiau sy'n cael eu bwyta, er enghraifft moron, panas, swêds. Yn aml iawn, y rhan o'r planhigyn sy'n cael ei bwyta yw'r ffrwyth, er ein bod ni'n meddwl amdano fel llysieuyn. Ystyr ‘ffrwyth' yw'r rhan o'r planhigyn lle mae'r hadau'n cael eu ffurfio.
Y ddelwedd gan Hollyanne Schnieden
Mae lluniau o'r deunyddiau bwyd y gellid cael o bob un o'r planhigion yma wedi'u darparu isod. Edrychwch ar y lluniau o'r deunyddiau bwyd a gynhyrchwyd gan y planhigion, a phenderfynwch os yw'n cynnwys gwreiddyn, dail, neu ffrwyth. Yna, llusgwch a gollwng y llun i'r adran gywir.
gwreiddiau | ffrwyth | dail |
---|---|---|
Mae planhigion penodol yn gallu rhoi gwahanol fathau o fwyd. Er enghraifft, mae rhai mathau o blanhigion pys yn rhoi pys gwyrdd, sy'n hadau, ond rydyn ni hefyd yn gallu bwyta'r cibau cyfan (fel yn achos pys 'eira' neu 'mange-tout’ yn y llun uchod), a ffrwythau'r planhigyn yw'r rhain mewn gwirionedd. Enghraifft arall yw'r planhigyn cwinoa, sy'n gallu rhoi hadau a dail inni.
Cliciwch ar y botwm isod i agor y gynfas luniadu. Lluniwch ddiagram Venn gyda chylchoedd ar gyfer hadau, dail a ffrwyth. Wedyn ysgrifennwch enwau'r planhigion canlynol yn y cylch cywir (neu'r fan gorgyffwrdd gywir): planhigion pys; planhigion cwinoa; puprynnau; cêl, bresych (gallwch ychwanegu rhagor o hadau, dail a ffrwythau sy'n gyfarwydd ichi hefyd).
Darllenwch y daflen ffeithiau ‘Cosmic Cuisine’ (dilynwch y ddolen isod), ac atebwch y cwestiynau canlynol:
P'un a ydych chi'n byw ar y blaned Mawrth yntau'r Ddaear, fe ddylech chi fwyta deiet gytbwys, sy'n cynnwys y swm cywir o fathau penodol o fwyd. Yn y tabl isod, llenwch y bylchau i ddangos beth rydych chi'n ei wybod am dri math pwysig o fwyd, wedyn cliciwch ar fotwm y roced i gymharu'ch atebion. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen BBC Bitesize yma: http://www.bbc.co.uk/education/guides/zyjx6sg/revision
Math o fwyd | Beth mae'r math yma o fwyd yn ei roi? | Enghreifftiau o blanhigion i'w tyfu ar y blaned Mawrth a allai roi'r math yma o fwyd | Enghreifftiau o unrhyw fwyd rydych chi'n ei fwyta ac a allai roi'r math yma o fwyd |
---|---|---|---|
Carbohydrad | |||
Deunydd i helpu i adeiladu'n celloedd a rhannau'r corff | |||
Bacwn, menyn, caws |
Math o fwyd | Beth mae'r math yma o fwyd yn ei roi? | Enghreifftiau o blanhigion i'w tyfu ar y blaned Mawrth a allai roi'r math yma o fwyd | Enghreifftiau o unrhyw fwyd rydych chi'n ei fwyta ac a allai roi'r math yma o fwyd |
---|---|---|---|
Carbohydrad | Egni | Radis, ffa, pys | Bara, tatws |
Protein | Deunydd i helpu i adeiladu'n celloedd a rhannau'r corff | Ffa, pys, hadau | Cig, pysgod, wyau |
Brasterau | Egni, inswleiddiad | Cnau a hadau penodol | Bacwn, menyn, caws |