Gweithgaredd 6
Modelu Ymlediad
Offer (i bob grŵp):
- Dwy ddysgl Petri (un yn cynnwys agar solet)
- Pliciwr
- Stopgloc
Cemegau:
- Dau grisial o botasiwm permanganad solet (KMnO4)
- Dŵr
Diogelwch
Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.
- Gall potasiwm permanganad beri llid ar y croen ac yn y llygaid. Gwisgwch fenig amddiffyn a sbectol ddiogelwch.
Dull
- Cymerwch y ddysgl Petri sy'n cynnwys agar, a defnyddiwch y pliciwr i osod crisial o botasiwm permanganad yn y canol. Rhowch y clawr ar y ddysgl, gan ofalu bod y ddysgl yn aros yn wastad.
- Yn ofalus, llenwch y ddysgl Petri arall â dŵr, a'i gosod mewn lle diogel. Defnyddiwch y pliciwr i osod crisial o botasiwm permanganad yn y canol, gan ofalu peidio â symud y ddysgl.
- Dechreuwch y stopgloc. Sylwch beth sy'n digwydd ym mhob dysgl ar ôl 1, 5, 10, 20, 30 munud.
Canlyniadau
Amser (munudau) |
Arsylwad |
1 | |
5 | |
10 | |
20 | |
30 | |
Trafodaeth
- Esboniwch beth sydd wedi digwydd i'r gronynnau potasiwm permanganad yn y ddwy ddysgl Petri.
- Oedd yna wahaniaeth rhwng y ddwy ddysgl? Os oedd, pam hynny?