Mae ‘SAM’ ar Curiosity wedi llwyddo i ddadansoddi samplau o'r atmosffer o amgylch Mawrth i ddarganfod pa nwyon sy'n bresennol. Mae'r rhain i'w gweld yn y siart bar sy'n dilyn.
Dadansoddiad o'r nwyon yn atmosffer Mawrth yn ôl canran
Allwedd i'r nwyon | |
---|---|
CO2 | Carbon Deuocsid |
Ar | Argon |
N2 | Nitrogen |
O2 | Ocsigen |
CO | Carbon Monocsid |
Mae'r gronynnau nwy yn atmosffer Mawrth yn fwy gwasgaredig na'r gronynnau nwy yn atmosffer y Ddaear. Ffordd arall o ddweud hyn yw bod atmosffer Mawrth yn llai dwys nag atmosffer y Ddaear. Mae hynny'n golygu nad yw cystal o ran amddiffyn y blaned rhag ymbelydredd yr haul a phelydrau cosmig.
Ym mis Rhagfyr 2014, cafodd Curiosity hyd i symiau bach iawn o fethan yn yr atmosffer o amgylch Crater Gale. Roedd hwn yn ganfyddiad pwysig iawn.
Defnyddiwch y fideo ar y tudalen hwn, a'r wybodaeth ar y tudalen ym mhen draw'r ddolen isod, i'ch helpu i ysgrifennu paragraff i'r papur newydd lleol i esbonio pam roedd darganfod methan ar y blaned Mawrth mor bwysig.
Darllen am fethanHoffech chi wybod unrhyw beth arall am y sylweddau cemegol ar y blaned Mawrth? Holwch Dr C!
Mynnwch ragor o wybodaeth >