12
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 12

Ffactorau sy’n Effeithio ar Eginiad Hadau

Byddwch yn ymchwilio i weld sut mae amodau amgylcheddol gwahanol yn effeithio ar eginiad hedyn. I ba ffactorau fyddwch chi'n ymchwilio? Efallai yr hoffech chi feddwl am y rhain:

Cynllunio:

Mewn grwpiau, dewiswch un ffactor i ymchwilio iddo, a holwch eich athro neu'ch athrawes. Sut gallwch chi ymchwilio i'r un ffactor yma yn unig, gan sicrhau nad oes ffactorau eraill yn ymyrryd? (prawf teg). Sut dylech chi osod eich arbrawf; sawl bicer o hadau y bydd eu hangen? (rheolaeth). Sut byddwch chi'n sicrhau bod gan yr hadau siawns o egino? Sut gallwch chi ddweud a ydy'r hadau wedi egino ai peidio? Fyddwch chi'n gallu mesur unrhyw agwedd ar yr egino? Nodwch bwyntiau pwysig yn y Tabl isod, a'i ddangos i'ch athro neu'ch athrawes cyn ichi ddechrau'r arbrawf.

  Bicer 1 Bicer 2
Ffa? (sawl un?)
Dŵr?
Goleuni?
Tymheredd?

Cyfarpar a Deunyddiau:

Dull

Canlyniadau

Lluniwch dabl tebyg i'r un isod, gan gofnodi'r hyn y byddwch yn ei weld ym mhob bicer ar yr amser penodol (gall fod angen ichi newid yr amserau, gan ddibynnu pryd y gallwch chi edrych ar y biceri). Os ydych chi wedi penderfynu gwneud gwiath mesur, gall fod angen ichi lunio tabl mwy manwl.

Diwrnod Bicer 1 (amodau?) Bicer 2 (amodau?)
1
2
5
10

Trafodaeth