Rydych chi wedi bod yn byw ar y blaned Mawrth ers misoedd lawer, ac erbyn hyn mae'n bryd ichi fynd yn ôl i'r Ddaear. Bydd y siwrnai'n para o leiaf dri mis, ac felly cewch ddigon o amser ar y ffordd adre i feddwl am yr holl bethau newydd rydych chi wedi'u dysgu, ac i gynllunio'ch antur nesaf yn y gofod!
Rydych chi wedi darganfod bod teithio drwy'r gofod, a byw'n llwyddiannus ar y blaned Mawrth, yn cynnwys llawer o wyddoniaeth bwysig! Bydd y cwestiwn nesaf yn eich atgoffa am rai o'r pwyntiau allweddol:
Ewch ymlaen â'ch adolygiad o'ch amser ar y blaned Mawrth drwy chwarae Bingo Mawrth!
Ar ddiwedd eich adolygiad, efallai yr hoffech drafod mewn grŵp, neu fel dosbarth cyfan, p'un a allai pobl fyw ar y blaned Mawrth mewn gwirionedd, ac os felly, pa mor hir, ac o dan ba amodau?
Pe baech chi wedi teithio i'r blaned Mawrth, ac wedi llwyddo i fyw yno am amser, fe allech chi fod yn meddwl am eich taith nesaf i'r gofod. Ble allech chi fynd?
Rhaid ichi gofio bod planedau, hyd yn oed yng nghysawd ein Haul ni, yn bell iawn, ac er bod y rocedi sydd ar gael yn gallu symud yn gyflym iawn, dydyn nhw ddim fel y llongau gofod mewn ffilmiau ac ar y teledu sy'n gallu mynd yn anhygoel o gyflym, weithiau'n gynt na chyflymder golau! A hyd yn oed pe baech chi'n gallu cyrraedd planedau pell, efallai y byddai'n anodd iawn byw yno, neu hyd yn oed cael eich llong ofod i lanio.
Dilynwch y dolenni canlynol i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y blaned Gwener, a'r blaned nesaf ar ôl Mawrth, sef y blaned gawraidd Iau. Wedyn llenwch y tabl isod cyn clicio ar fotwm y roced i gymharu'ch atebion:
Gwener: http://solarsystem.nasa.gov/planets/venus/needtoknow
Iau: http://solarsystem.nasa.gov/planets/jupiter/needtoknow
Gwener | Iau | |
---|---|---|
Ydy maint y blaned yn debyg i'r Ddaear? | ||
Ydy'r blaned yn blaned greigiog fel y Ddaear? | ||
Beth yw'r tymheredd ar y blaned? | ||
Sut atmosffer sydd gan y blaned? | ||
Fyddai hi'n hawdd byw ar wyneb y blaned? |
Gwener | Iau | |
---|---|---|
Ydy maint y blaned yn debyg i'r Ddaear? | Ydy | Llawer iawn mwy (y blaned fwyaf): 11 gwaith yn fwy llydan na'r Ddaear |
Ydy'r blaned yn blaned greigiog fel y Ddaear? | Ydy (ond does dim lleuadau ganddi). | Nac ydy, mae wedi'i ffurfio o nwy yn bennaf, felly does dim wyneb solet (mae ganddi fwy na 50 o leuadau!) |
Beth yw'r tymheredd ar y blaned? | 480˚C (poeth iawn) | -110˚C (oer iawn) |
Sut atmosffer sydd gan y blaned? | Carbon deuocsid (CO2) yn bennaf, gyda chymylau o asid sylffyrig | Nwy hydrogen (H2) yn bennaf a nwy heliwm (He2) |
Fyddai hi'n hawdd byw ar wyneb y blaned? | Na fyddai - llawer rhy boeth, a dim ocsigen i'w anadlu. Byddai unrhyw ddŵr wedi anweddu | Na fyddai - llawer rhy oer, dim dŵr, dim ocsigen i'w anadlu, a dim wyneb solet i sefyll arno |
Fyddai Gwener ac Iau ddim yn blanedau da ichi ymweld â nhw! Nid yn unig maen nhw'n bell iawn, ond mae'r amgylchiadau ar y ddwy blaned yn rhy eithriadol ar gyfer y rhan fwyaf o organebau byw. Sut le fyddai'r blaned ddelfrydol? Ychwanegwch eich labeli eich hun at y diagram isod i sôn am y tymheredd, yr atmosffer, natur wyneb y blaned, a'r organebau byw sydd yno.
Mae'n debyg bod eich planed ddelfrydol yn bur debyg i'r Ddaear! A dweud y gwir, mae'n debyg y bydd unrhyw blaned y gallai pobl fyw arni yn debyg o fod tua'r un pellter i ffwrdd o'r Haul â'r Ddaear.
Mae gwyddonwyr yn credu y gall fod amgylchiadau sy'n debyg i'r Ddaear ar leuadau rhai o'r planedau yng nghysawd ein Haul ni, ac ar rai planedau ymhell tu allan i gysawd ein Haul ni: yr enw ar y rhain yw 'planedau all-heulol', neu ‘allblanedau’.
Mae angen ichi roi gwybodaeth bwysig am allblanedau i weinidog yn y llywodraeth. Bydd hyn yn helpu'r gweinidog i benderfynu pa blanedau i ymchwilio iddyn nhw yn y dyfodol.
Dilynwch y ddolen isod a defnyddiwch yr erthygl am ‘allblanedau' i'ch helpu i ysgrifennu rhestr fer o bwyntiau allweddol, gan gynnwys:
Rydych chi wedi darganfod llawer iawn o wybodaeth am y blaned Mawrth, ac ambell blaned arall, ond mae'n debyg eich bod yn sylweddoli bod yna lawer iawn i'w ddysgu am y Bydysawd o hyd. Gallwch ddysgu cryn dipyn drwy edrych i fyny ar awyr y nos, ac mae'n help os oes gennych finocwlar neu delesgop. (Gweler: http://amazingspace.org/tonights_sky/; http://www.bbc.co.uk/programmes/p04fyqv3)
Hefyd, gallwch gymryd rhan mewn gwyddor gofod drwy ymuno mewn llawer o ddigwyddiadau ar-lein sy'n cael ei trefnu gan NASA (gweler https://www.nasa.gov/solve/index.html), a sefydliadau fel Asiantaeth Gofod y Deyrnas Unedig. (Gweler: https://www.gov.uk/government/organisations/uk-space-agency)
Efallai yr hoffech gysylltu â nhw i roi eich syniadau chi am y blaned Mawrth, ac am archwilio'r gofod. Mae sawl rhaglen deledu a allai roi rhagor o wybodaeth ichi, fel ‘The Sky at Night’ ar y BBC bob mis. (http://www.bbc.co.uk/programmes/b006mk7h)