Gweithgaredd 8
Beth sy’n digwydd i esgyrn heb halwynau Calsiwm
Yn y gweithgaredd ymarferol yma, byddwch yn darganfod beth sy'n digwydd i esgyrn pan fydd swm yr halwynau esgyrn ynddyn nhw yn cael ei leihau. Gall hyn gael ei wneud drwy drochi'r asgwrn mewn sylwedd asidig fel finegr (asid asetig)
Cyfarpar a deunyddiau
- Dau ficer glân
- Dŵr
- Finegr/asid asetig
- Silindr mesur
- Dau asgwrn bach glân o'r un maint (e.e. esgyrn cyw iâr)
- Cling-film neu rywbeth tebyg
- Pliciwr
Diogelwch
Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.
- Gall asid asetig (finegr) beri llid i'r croen ac i'r llygaid.
Dull
- Gosodwch y ddau ficer â'r un faint o ddŵr yn y naill ac asid asetig yn y llall. Rhowch labeli ar y ddau ficer.
- Rhowch un asgwrn yr un yn y ddau ficer.
- Ar ôl tua thri diwrnod, defnyddiwch y pliciwr i godi'r asgwrn o'r bicer dŵr. Ceisiwch blygu'r asgwrn. Beth sy'n digwydd?
- Nawr defnyddiwch y pliciwr i godi'r asgwrn o'r bicer asid asetig. Ceisiwch blygu'r asgwrn yma. Beth sy'n digwydd? Sut mae'r asgwrn yma'n teimlo o'i gymharu â'r asgwrn cyntaf?
Trafodaeth
- Pam cawsoch chi ganlyniadau o'r ddau asgwrn?
- Sut gallai gostyngiad yn swm yr halwynau esgyrn ddigwydd mewn corff dynol byw?
- Beth fyddai effaith gostyngiad yn yr halwynau esgyrn yn yr esgyrn mewn corff dynol byw?