24.
24
+ _

Mae gennych chi rywfaint o fwyd, tanwydd ac adnoddau eraill yn eich llong ofod, ond fydd y rhain ddim yn para'n hir, a bydd angen i chi aros ar y blaned Mawrth am fisoedd lawer. Nawr eich bod yn gyfarwydd ag wyneb Mawrth, mae'n bryd ichi fentro allan o'ch llong ofod, a chrwydro'ch planed newydd.

Allech chi gamu allan o'ch llong ofod yn eich dillad cyffredin?
Na allech! Dyw Mawrth ddim fel y Ddaear, ac allech chi ddim aros yn fyw ar wyneb Mawrth heb offer arbennig.

Pa broblemau fydd yn eich wynebu ar y blaned Mawrth?

Llenwch y tabl yma i'ch atgoffa chi'ch hun sut le yw Mawrth, pa broblemau fydd yn eich wynebu, a'r hyn y bydd angen ichi ei wneud. Wedyn, cliciwch ar fotwm y roced i weld esiampl o dabl wedi'i lenwi, a chymharwch eich atebion!

Bydd yr amgylchiadau ar y blaned Mawrth yn bendant yn peri problemau i fodau dynol, ond efallai fod yna organebau sy'n gallu goroesi ar y blaned Mawrth heb amddiffyniad arbennig, ac mae'n bosibl eu bod yn byw yno nawr! Ond mae hi bron yn sicr na fyddan nhw'n edrych fel y ‘dynion bach gwyrdd' sy'n cael eu crybwyll mewn llawer o storïau ffuglen wyddonol!

Creu Mawrthiad

Os oes yna organebau byw ar y blaned Mawrth mewn gwirionedd, pa nodweddion sy'n debyg o fod ganddyn nhw? Lluniwch ‘Mawrthiad delfrydol’ yn yr ymarfer nesaf drwy lusgo nodweddion posibl i'r ddelwedd.

Dyma chi wedi gwneud penderfyniadau am nodweddion posibl Mawrthiaid.

Yn y tabl nesaf, esboniwch pam rydych chi wedi dewis y nodweddion hyn. Wedyn, cliciwch ar fotwm y roced i weld esiampl o dabl wedi'i lenwi, a chymharwch eich atebion!

Hyd yn hyn, does dim organebau byw wedi'u gweld ar y blaned Mawrth. Pe bai Mawrthiaid yn bodoli mewn gwirionedd, fe allen nhw fod yn debyg i'r 'eithafgarwyr' sy'n byw ar y Ddaear, sef organebau sy'n gallu goroesi mewn amgylchedd eithriadol, neu anodd. Mae'r rhain yn aml yn fach iawn, ac yn gallu defnyddio (neu ‘metaboleiddio’) sylweddau cemegol nad ydyn ninnau'n gallu eu defnyddio. Gallai'ch Mawrthiad delfrydol chi fod yn fach hefyd, ac yn gallu defnyddio nwy carbon deuocsid, efallai i wneud ei fwyd ei hun (fel planhigyn). Byddai angen iddo wrthsefyll ymbelydredd ac oerfel eithriadol hefyd.

Rhagor o wybodaeth!

Rhagor o wybodaeth am farn y gwyddonwyr am sut rai fyddai Mawrthiaid posibl

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Oes gwir angen Siwtiau Gofod?

Wrth ichi gerdded ar wyneb Mawrth, bydd angen ichi wisgo siwt ofod. Bydd hon yn eich amddiffyn, ac yn rhoi cyflenwad aer ichi hefyd er mwyn ichi gael anadlu.

Rhagor o wybodaeth!

Rhagor o wybodaeth am siwtiau gofod

Mynnwch ragor o wybodaeth >