Fel y gwelsoch chi, mae'r blaned Mawrth filiynau o filltiroedd i ffwrdd o'r Ddaear, sy'n bell bell iawn! Nid peth hawdd yw teithio mor bell, ond mae llawer o longau gofod wedi cyrraedd Mawrth yn barod (er nad oes pobl wedi bod arnyn nhw). Un o'r rhain oedd Labordy Gwyddoniaeth Mawrth NASA a aeth â'r cerbyd robotig 'Curiosity' sydd wedi bod yn crwydro Mawrth.
Y cam cyntaf ar y siwrnai bell yw lansio'r llong ofod i'r gofod, ac mae hynny'n digwydd drwy gymorth rocedi.
Mae roced yn cael ei defnyddio i godi llong ofod oddi ar y Ddaear a'i chludo i'r gofod. Mae rocedi'n fawr, ac yn llawer mwy na'r llong ofod (neu unrhyw lwyth arall) sy'n cael ei chludo.
Llusgwch y rhifau ar yr ochr dde at y rhannau cywir o'r roced.