Mae seryddwyr yn wyddonwyr sy'n astudio sêr, planedau, a'r gofod. Yn aml, maen nhw'n defnyddio telesgopau cryf iawn.
Mae telesgop syml yn defnyddio dwy lens wydr i chwyddo gwrthrych pell.
Gallech chi fod yn seryddwr! Mae sawl cymdeithas seryddol yng Nghymru, fel yr un yn Abertawe:
Mynnwch ragor o wybodaeth >Dyma un o delesgopau radio Jodrell bank, ger Manceinion, y gall seryddwyr eu defnyddio i astudio gwrthrychau yn y gofod.
Mike Peel; Canolfan Astroffiseg Jodrell Bank, Prifysgol Manceinion
Darllenwch yr wybodaeth am wefan NASA yma: http://mars.nasa.gov/allaboutmars/facts/ ac atebwch y cwestiynau a ganlyn.