Beth yw'r ffynonellau egni posibl i robot crwydrol fel ‘Curiosity’?
Mae cerbyd Curiosity'n defnyddio gwres o ddirywiad ymbelydrol plwtoniwm i gynhyrchu ei egni.
Er hynny, mae sawl llong ofod wedi defnyddio egni'r Haul, sy'n fath pwysig o egni adnewyddadwy.
Un enghraifft o long ofod a fu'n defnyddio egni'r Haul yw Rosetta, a gafodd ei lansio gan Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA) yn 2004 i ymchwilio i adeiledd comed. Cafodd ‘modiwl glanio' o'r enw ‘Philae’ ei hanfon i wyneb y comed i ddarganfod sut beth oedd e, ac roedd y modiwl hwn hefyd yn defnyddio egni'r Haul (nid cerbyd crwydrol oedd hwn: cafodd ei gynllunio i sefyll yn ei unfan).
Canolfan Awyrofod yr Almaen, y DLR
Roedd y llong ofod Rosetta'n defnyddio cyfres o gelloedd egni Haul i ddal egni'r Haul a'i droi'n egni a allai gael ei ddefnyddio.
Mae celloedd egni'r Haul yn adeileddau tenau, tebyg i blatiau, sy'n gallu dal egni'r Haul. Maen nhw'n amrywio o ran eu maint, ac yn cael eu gwneud o silicon fel arfer.
Fel y sylwch chi yn y llun, peth cyffredin yw gweld niferoedd mawr o gelloedd egni'r Haul wedi'u gosod mewn caeau erbyn hyn, ac maen nhw i'w gweld ar doeon tai hefyd.
Sylwch fod yna fathau gwahanol o 'baneli' Haul ar doeon ac mewn mannau eraill. Celloedd egni Haul yw rhai, ond paneli sy'n cynnwys dŵr yw rhai eraill, a'r dŵr yn cael ei dwymo gan yr Haul.
Ffactorau sy'n effeithio ar allbwn foltedd cell egni Haul
Gweld y Gweithgaredd Ymarferol >Mynnwch ragor o wybodaeth am gelloedd egni'r haul yma:
Mynnwch ragor o wybodaeth >Gobeithio y bydd egni'r haul yn eich helpu chi a'r dyfeisiau y byddwch yn eu defnyddio wrth ddechrau archwilio Mawrth. Ond dydyn ni ddim yn gallu dibynnu ar egni'r Haul bob amser: yn ystod taith Rosetta, fe laniodd Philae yn lletchwith ar y comed roedd yn ceisio ei astudio. Mae'r gwyddonwyr yn credu ei fod wedi glanio mewn rhan gysgodol o'r comed lle nad oedd llawer o heulwen.
Yn anffodus, fe fethodd Philae â defnyddio egni'r Haul, ac fe gollodd gysylltiad â Rosetta pan ddaeth y batris i ben ymhen dau ddiwrnod. Llwyddodd i wneud ambell brawf ar wyneb y comed, ond methodd â chyflawni'r rhan fwyaf o'r gwaith arfaethedig.