Er bod y Ddaear a Mawrth drws nesaf i'w gilydd yng nghysawd yr Haul, maen nhw'n dal yn bell, bell iawn oddi wrth ei gilydd! Mae'r union bellter yn amrywio, gan ddibynnu ble yn union mae'r ddwy blaned yn eu cylchdroeon.
Cliciwch ar y symbol gweithgarwch er mwyn gweld cwestiynau lle byddwch yn defnyddio'r llun cyntaf ar y tudalen yma, a'r pren mesur.
Ceisiwch ganfod yr atebion i'r cwestiynau canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – sawl ateb cywir gawsoch chi?
Pe baech chi'n gallu mynd i mewn i roced, a chychwyn am y blaned Mawrth, faint o amser fyddai hi'n ei gymryd ichi gyrraedd? Fyddai hi'n cymryd oriau? Dyddiau?
Beth rydych chi angen ei wybod er mwyn ceisio ateb y cwestiwn blaenorol?
Categori |
Buanedd
(km/h) |
Buanedd
(km/h) (gwerth wedi ei dalgrynnu) |
Buanedd
(mph) |
Cerbyd Enghreifftiol | Peilot | Dyddiad |
---|---|---|---|---|---|---|
7,258
|
7000 | 4,510 | 03/10/1967 | |||
870
|
900 | 540 |
Ivan Soukhomline
|
1960 | ||
Hofrennydd |
401.0
|
400 | 249.2 |
John Egginton
|
11/08/1986 | |
58,536
|
60,000 | 36,373 | (heb griw) | 19/01/2006 | ||
46,440
|
50,000 | 28,860 | (heb griw) | 15/01/2006 | ||
39,896
|
40,000 | 24,790 |
Apollo 10 CSM Charlie Brown
|
Thomas Stafford,
John W. Young, Eugene Cernan |
26/05/1969 |
Edrychwch ar y data uchod ynghylch cerbydau hedfan gwahanol sydd wedi'u gwneud gan bobl, a defnyddiwch y data i ateb y cwestiwn sy'n dilyn.
I gyfrifo faint o amser sydd ei angen i gyrraedd Mawrth, mae angen cymharu'r pellter sydd i'w deithio a buanedd y llong ofod rydyn ni'n ei defnyddio. Gallwn ddefnyddio'r fformiwla syml:
Wrth ddefnyddio'r fformiwla yma, mae angen bod yn ofalus bod yr unedau pellter yn cyd-fynd â'r unedau buanedd. Felly, er enghraifft, os yw'r pellter yn cael ei roi mewn km (cilometrau), yna dylai'r buanedd gael ei roi mewn km/h (sef 'cilometrau yr awr', ac nid mewn mya ('milltiroedd yr awr'). Mae km/h yn gallu cael ei ysgrifennu hefyd fel km h-1).
Ceisiwch ganfod yr ateb i'r cwestiwn canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – oeddech chi'n gywir?
Amser = Pellter ÷ Buanedd Amser = 100 km ÷ 50 km/h Felly, amser = 2 h (hynny yw, dwy awr)
Ceisiwch ganfod yr ateb i'r cwestiwn canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – oeddech chi'n gywir?
Amser = Pellter ÷ Buanedd Amser = 100,000,000 km ÷ 40,000 km/h Felly, amser = 2500 h
Beth yw hynny mewn diwrnodau?
Mae 24 awr mewn un diwrnod, felly nifer y diwrnodau yw: 2500h ÷ 24h = 104 o ddiwrnodau (yn fras)