Gweithgaredd 10
Cyflyrau Gwahanol Dŵr
Gweithgaredd 1: Beth sy'n digwydd pan fydd dŵr yn berwi?
Yn y gweithgaredd ymarferol hwn, byddwn yn edrych yn gyntaf ar yr hyn sy'n digwydd pan fydd dŵr yn berwi ac wedyn yn ystyried beth sy'n digwydd pan fydd rhew yn toddi.
Cyfarpar
- Bicer mawr
- Llosgydd Bunsen a mat gwrth-wres
- Trybed a gwe wifrog
- Sbectolau diogelwch
- Thermomedr (dewisol)
Diogelwch:
Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.
- Gall y stand drithroed a'r we wifrog fynd yn boeth iawn – peidiwch â’i symud nes ei fod wedi oeri.
- Cymerwch ofal wrth ddefnyddio llosgydd Bunsen, a pheidiwch â symud standiau trithroed nes eu bod wedi oeri. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio thermomedr er mwyn osgoi ei dorri
- Gall thermomedr gwydr fod yn hawdd ei dorri, a gall fod mercwri ynddo, sy'n wenwynig. Os bydd eich thermomedr yn torri, dywedwch wrth eich athro neu'ch athrawes ar unwaith. Peidiwch â chyffwrdd â gwydr sydd wedi torri na mercwri.
- bicer
- dŵr
- trybed a gauze
- llosgydd Bunsen
- mat gwres
Dull
- Gosodwch ficer mawr sy'n hanner llawn dŵr ar drybedd a gwe wifrog.
- Gosodwch thermomedr yn y bicer.
- Gosodwch losgydd Bunsen o dan y dŵr, a'i danio'n ofalus.
- Ysgrifennwch y tymheredd bob pum munud yn y tabl isod, a nodwch yr hyn y byddwch yn ei weld yn digwydd yn y dŵr bob tro.
- Stopiwch y cynhesu pan fydd y tymheredd yn agosáu at 100°C
Canlyniadau
Disgrifiwch yr hyn welsoch chi wrth i dymheredd y dŵr godi.
Amser (Munudau) |
Tymheredd (°C) |
Sut mae'r dŵr yn edrych |
| | |
| | |
| | |
| | |
| | |
| | |
| | |
| | |
Trafodaeth
- Faint o amser gymerodd hi i dymheredd y dŵr agosáu at 100°C?
- Beth ddigwyddodd wrth i dymheredd y dŵr agosáu at 100°C?
- Allwch chi esbonio beth welsoch chi?
Gweithgaredd 2: Beth sy'n digwydd pan fydd rhew yn toddi?
Cyfarpar
- bicer mawr
- ciwbiau rhew
- thermomedr
Dewisol: llosgydd Bunsen, trybedd, gwe wifrog, mat gwrth wres, sbectolau diogelwch
Diogelwch:
Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.
- Gall y stand drithroed a'r we wifrog fynd yn boeth iawn – peidiwch â'u' symud nes eu bod wedi oeri.
- Gall thermomedr gwydr fod yn hawdd ei dorri, a gall fod mercwri ynddo, sy'n wenwynig. Os bydd eich thermomedr yn torri, dywedwch wrth eich athro neu'ch athrawes ar unwaith. Peidiwch â chyffwrdd â gwydr wedi torri na mercwri.
- bicer
- rhew
- dŵr
Dull
- Gosodwch rywfaint o rew mewn bicer mawr.
- Gosodwch thermomedr yn y rhew a chofnodwch y tymheredd.
- Gadewch i'r rhew gynhesu, naill ai drwy ddefnyddio llosgydd Bunsen, neu drwy osod y bicer mewn lle cynnes.
- Ysgrifennwch y tymheredd bob pum munud yn y tabl isod, a nodwch yr hyn y byddwch yn ei weld yn digwydd yn y dŵr bob tro.
- Stopiwch gofnodi pan nad oes modd gweld rhagor o rew
Canlyniadau
Disgrifiwch yr hyn welsoch chi wrth i dymheredd y rhew godi
Amser (Munudau) |
Tymheredd (°C) |
Sut mae'r rhew yn edrych |
| | |
| | |
| | |
| | |
| | |
| | |
| | |
| | |
Trafodaeth
- Faint o amser gymerodd hi i'r rhew i gyd ddiflannu?
- Sut gallech chi ddisgrifio cynnwys y bicer y pryd hwnnw?
- Allwch chi esbonio beth welsoch chi?
Pwyntiau Cryno:
Yn ystod y gweithgaredd ymarferol yma rydych chi wedi gweld tri chyflwr ffisegol dŵr.
- Beth yw tri chyflwr ffisegol dŵr?
- Ar ba dymheredd mae'r cyflyrau hyn yn newid? Beth yw'r enwau ar y tymereddau yma?
- Beth sy'n digwydd i ronynnau dŵr pan fydd dŵr yn cael ei dwymo, a sut mae hyn yn esbonio'r newidiadau yn y cyflyrau rydych chi wedi'u gweld?