Gweithgaredd 3
Ymchwilio i’r Egni mewn Tanwyddau
Yn y gweithgaredd ymarferol yma, byddwch yn darganfod faint o egni sydd mewn un neu fwy o danwyddau. Mae'n debyg mai alcoholau fydd y tanwyddau yma: efallai eich bod wedi clywed bod yna alcohol mewn diodydd fel cwrw a gwin, ond a dweud y gwir mae sawl math gwahanol o alcoholau, ac mae'r rhain yn cynnwys moleciwlau sydd ag egni cemegol wedi'i gloi ynddyn nhw.
Beth fydd ei angen? (Cyfarpar)
- Stand retort a chlamp
- Fflasg gonigol
- Silindr mesur
- Thermomedr
- Clorian
- Llosgydd gwirodydd ac ynddo wahanol fathau o alcoholau
- Sbectolau diogelwch
Diogelwch
Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.
- Gofalwch eich bod yn gwisgo sbectol ddiogelwch drwy gydol y gweithgaredd ymarferol.
- Cymerwch ofal ynglŷn â fflam y llosgydd gwirodydd.
- Cymerwch ofal ynglŷn ag alcoholau: maen nhw'n berygl tân.
Beth mae angen ei wneud? (Dull)
- Gofalwch eich bod yn gwrando ar gyfarwyddyd eich athro neu'ch athrawes ynghylch manylion y dull a'r trefniadau diogelwch.
- Mesurwch 100cm3 o ddŵr tap oer mewn fflasg gonigol.
- Clampiwch y fflasg ar uchder addas fel ei bod yn hawdd gosod llosgydd gwirodydd o dani (fel yn y diagram sy'n dangos y cyfarpar).
- Pwyswch y llosgydd gwirodydd (a'r clawr) sy'n cynnwys yr alcohol a chofnodwch y màs yma ac enw'r alcohol.
- Cofnodwch dymheredd cychwynnol y dŵr yn y fflasg.
- Gosodwch y llosgydd o dan y fflasg a thaniwch y wic.
- Gadewch i'r alcohol losgi (hylosgiad) fel ei fod yn twymo'r dŵr. Gadewch i dymheredd y dŵr godi 40°C.
- Rhowch y clawr yn ôl er mwyn diffodd y fflam.
- Pwyswch y llosgydd a'r clawr eto, a chofnodwch y màs.
- Cyfrifwch fàs yr alcohol sydd wedi'i ddefnyddio, drwy dynnu'r màs yng ngham 8 o'r màs yng ngham 3.
- Nawr ewch ati eto (gan ddefnyddio'r un faint o ddŵr oer o'r tap) gyda math arall o alcohol mewn llosgydd gwirodydd arall. Gofalwch bob tro eich bod yn gadael i'r tymheredd godi yr un faint, hynny yw 40°C.
Beth fyddwch chi'n ei weld? (Canlyniadau)
Byddwch yn ymchwilio i sawl math gwahanol o alcohol. Ar gyfer pob un, bydd angen ichi ysgrifennu:
- Enw'r alcohol
- Màs y llosgydd cyn ichi losgi
- Màs y llosgydd ar ôl ichi losgi
- Màs yr alcohol a gafodd ei losgi
Beth fyddai'r ffordd orau i gofnodi'r wybodaeth yma?
Beth ddigwyddodd, a pham? (Casgliad):
Dyma rai pwyntiau i feddwl amdanyn nhw:
- Pam cododd tymheredd y dŵr pan gafodd yr alcohol ei losgi?
- Pa fath o drosiant egni oedd yn digwydd pan oedd yr alcohol yn llosgi?
- Pa alcohol roddodd yr egni mwyaf? Sut rydych chi'n gwybod?
- Ydy'r cyfan o'r gwres sy'n cael ei gynhyrchu drwy losgi'r alcoholau yn mynd i mewn i'r cynnydd yn nhymheredd y dŵr?