10.
10
+ _
Os nad oes grym disgyrchiant yn gweithredu, beth sy'n digwydd inni?
Rydyn ni'n teimlo'n ddibwysau, ac fe fydden ni'n dechrau arnofio

Heb rym disgyrchiant i'ch tynnu chi i lawr byddech yn dechrau arnofio, a byddai angen ichi aros yn eich llong ofod i sicrhau na fyddech chi'n arnofio i ffwrdd i'r gofod!

Byddech yn bendant yn sylwi pe baech chi'n dechrau arnofio, ond byddai diffyg disgyrchiant yn creu newidiadau heb ichi sylwi hefyd. Byddai'r newidiadau hyn yn digwydd yn araf dros gyfnod o amser, ac yn cynnwys newidiadau yn ein hesgyrn a'n cyhyrau.

Beth yw gwaith ein hesgyrn ni?

Mae ein hesgyrn yn ein cadw'n sefyll (yn ein cynnal) ac yn diogelu rhannau o'n cyrff sy'n hawdd eu niweidio. Llusgwch rif pob asgwrn isod i'r rhan gywir o'r sgerbwd!