Yn ogystal â thynnu lluniau, mae gan y cerbyd Curiosity offer sy'n gallu mesur y tymheredd, pwysedd yr atmosffer (sef 'gwthiad' yr atmosffer ar wrthrychau ar wyneb y blaned) a lleithder (faint o ddŵr sydd yn yr aer).
Mae'r tabl a ganlyn yn rhoi gwybodaeth am newidiadau yn y tymheredd yng Nghrater Gale dros gyfnod o ddwy flynedd, sy'n cyfateb i ychydig yn fwy na 1200 o ddyddiau Mawrth neu ‘sol’. Cafodd y tymhered ei fesur mewn unedau ˚C (graddau Celsius). Defnyddiwch yr wybodaeth i ateb y cwestiynau sy'n dilyn.
Amser (Dyddiau) | Tymheredd (°C) |
---|---|
0 | -10 |
200 | -5 |
400 | -22 |
600 | -30 |
800 | -9 |
1000 | -2 |
1200 | -25 |
0°C = 32°F
Mae Curiosity hefyd yn gallu codi samplau o solidau (hynny yw, creigiau a phriddoedd) ar wyneb y blaned, a samplau o'r nwyon yn atmosffer Mawrth.
Gall Curiosity ddadansoddi'r samplau mae'n eu casglu, sy'n golygu ei fod yn gallu darganfod pa sylweddau cemegol sy'n bresennol yn y samplau (fel haearn yn llwch Mawrth). Mae gan Curiosity set o offer i wneud gwaith dadansoddi cemegol, ac mae NASA'n galw'r rhain yn Ddadansoddiadau Samplau ar y blaned Mawrth (‘Sample Analysis at Mars’) neu ‘SAM’
NASA-GSFC
Rhowch gynnig ar ddadansoddi gan ddefnyddio SAM rhyngweithiol!
Mynnwch ragor o wybodaeth >Eisiau gweld fideo sy'n dangos Curiosity a SAM ar ôl un flwyddyn?
Mynnwch ragor o wybodaeth >