21.
21
+ _

Un o nodau'r daith i'r blaned Mawrth, a cherbyd Curiosity, yw gweithio allan a oes unrhyw fath o fywyd ar y blaned Mawrth, neu a oes bywyd wedi bod yn y gorffennol. Un o'r camau cyntaf tuag at gyrraedd y nod yw darganfod a oes yna ddŵr ar y blaned Mawrth.

Pam byddai presenoldeb dŵr yn dweud wrthon ni fod bywyd yn bosibl ar y blaned Mawrth?
Am fod angen dŵr ar bob peth byw.
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA

Mae gwyddonwyr yn credu bod dŵr yn hanfodol i bob organeb byw ar y Ddaear, ac i unrhyw organebau a allai fodoli ar y blaned Mawrth neu rywle arall yn y bydysawd. Pan fyddwch chi ar y blaned Mawrth, byddai'n dda gwybod a oes cyflenwad dŵr ar gael ichi gael yfed.

Pam mae dŵr yn bwysig?

Bydd y gweithgaredd isod yn eich helpu i feddwl am pam mae dŵr mor bwysig ar gyfer bywyd. Rhowch dic neu groes gyferbyn â phob eitem yn y rhestr i ddangos a ydy dŵr yn bwysig i'r eitem neu beidio, ac wedyn esboniwch pam yn fyr ar y dde:

Gallwch weld bod arnon ni angen dŵr at lawer iawn o ddibenion. Drwy lwc, ar y Ddaear mae llawer iawn o ddŵr ar gael, y rhan fwyaf ohono yn y cefnforoedd.

Ble arall allwn ni weld dŵr ar y Ddaear?
mewn: llynnoedd, afonydd, cymylau, glaw, eira, rhew