9
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 9

Prawf Fflamau i Adnabod Metelau

Mae'r gweithgaredd ymarferol yma yn ein helpu i adnabod yr elfennau metelaidd sy'n bresennol mewn amrediad o samplau. Toddiannau o gyfansoddion metelaidd yw'r samplau sy'n cael eu defnyddio yma. Mae'r cyfansoddion hyn i'w cael yn aml mewn creigiau a mwynau ac maen nhw'n rhoi eu lliwiau penodol iddyn nhw.

Diogelwch

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Cyfarpar a deunyddiau

Y toddiannau canlynol, bob un mewn fflasg gonigol 250 cm3, wedi'u labelu A-F:

Hefyd:

Dull

  1. Rhowch sbilsen sych ym mhob un o'r toddiannau halwyn metelaidd yn y fflasgiau conigol a'u gadael yno.
  2. Defnyddiwch sbilsen sych i gynnau'r llosgydd.
  3. Cymerwch un o'r sbils o un o'r fflasgiau conigol sy'n cynnwys toddiant halwyn metelaidd.
  4. Chwifiwch eich sbilsen uwchben fflam y llosgydd a sylwch ar ei lliw. Wedyn diffoddwch y sbilsen a chael gwared arni.
  5. Cofnodwch enw'r toddiant halwyn metelaidd a lliw'r fflam.
  6. Ailadroddwch gamau 2 i 4 ar gyfer pob un o'r toddiannau eraill rydych chi wedi'u cael.

Tabl Canlyniadau

Sampl Lliw'r fflam Casgliad: pa elfen oedd yn bresennol?
A
B
C
D
E
F

Casgliad

Er mwyn darganfod pa elfen oedd yn bresennol ym mhob un o'r toddiannau, bydd arnoch chi angen yr wybodaeth ganlynol:

Mae lliw'r fflam yn dibynnu ar y metel:

Mae'r lliwiau hyn yn cael eu defnyddio'n aml mewn tân gwyllt hefyd i greu'r lliwiau gwahanol sy'n cael eu gweld wrth i'r tân gwyllt losgi. Mae sodiwm hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn rhai goleuadau stryd a dyna pam maen nhw'n edrych yn felyn. 

Os edrychwch chi ar y fflam drwy sbectrosgop, byddwch yn gweld sbectrwm nodweddiadol. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio mewn cemeg i ddadansoddi deunydd o ran math yr atomau a chrynodiad yr atomau. Mae cemegwyr yn ‘llosgi’ y sylwedd ac yn mesur amledd (lliw) y golau sy'n cael ei greu. Yr enw ar y broses yma yw Sbectrosgopeg Allyriad Atomau.