Rydym yn gwybod bod llawer o ddŵr ar y Ddaear, ond beth mae Curiosity wedi'i ddarganfod am ddŵr ar y blaned Mawrth?
NASA/JPL-Caltech/Cornell
Drwy ddilyn y ddolen isod i dudalen gwe NASA, gallwch weld gwybodaeth am rai o ddarganfyddiadau Curiosity. Defnyddiwch yr wybodaeth i ysgrifennu rhestr o dystiolaeth i ddangos ei bod yn bosibl bod yna ddŵr ar y blaned Mawrth, neu fod dŵr wedi bod yno yn y gorffennol.
Darllenwch am y darganfyddiadau >Mae yna dystiolaeth i ddangos ei bod yn bosibl bod dŵr hylifol wedi bod ar y blaned Mawrth rywbryd yn y gorffennol. Mae'r ffotograff yma o Nirgal Vallis ar y blaned Mawrth yn edrych yn debyg iawn i afon â llednentydd (afonydd llai sy'n rhedeg i mewn i afon fwy), ond does dim dŵr hylifol ynddyn nhw bellach.
NASA/JPL-Caltech
Serch hynny, mae gwyddonwyr yn credu bod yna ddŵr ar y blaned Mawrth o hyd, ond gan fod y tymheredd ar y blaned yn -55 ̊C ar gyfartaledd, rhew fyddai unrhyw ddŵr sydd yno.
Mae'r dystiolaeth o Curiosity a chwiliedyddion eraill yn awgrymu bod yna lawer o rew ar y blaned Mawrth, yn enwedig wrth y ddau begwn (sef top a gwaelod y blaned). Mae'r ddelwedd yma'n dangos pegwn y gogledd ar y blaned Mawrth, a chafodd ei thynnu gan chwiliedydd NASA o'r enw Mars Global Surveyor:
NASA/JPL-Caltech/MSSS
Mae seryddwyr yn credu bod dŵr i'w gael mewn rhannau eraill o gysawd yr Haul, gan gynnwys lleuadau i Iau, o'r enw ‘Europa’ a ‘Ganymede’, a lleuad i Sadwrn o'r enw ‘Enceladus’. Darllenwch ragor am hyn yma:
Mynnwch ragor o wybodaeth >Pan fyddwch yn byw ar y blaned Mawrth, bydd arnoch chi a'r gofodwyr eraill angen cyflenwad o ddŵr yfed glân, ac fe allai'r capiau rhew yn y ddau begwn fod yn ffynhonnell dda.
Mae'n bosibl nad dŵr pur fydd y rhew ar y blaned Mawrth. Mae'n bosibl ei fod yn cynnwys llwch, cerrig, a dyddodion eraill, ac mae'n bosibl hefyd ei fod yn cynnwys sylweddau cemegol fel halen cyffredin.
Sut gallech chi buro'r dŵr o'r rhew yn y ddau begwn, er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i'w yfed? Gallwch ateb y cwestiwn yma drwy wneud yr ymarfer puro dŵr.