14
!Gallwch wneud y gweithgaredd ymarferol yma gyda'ch ffrindiau!
+ _

Gweithgaredd 14

Bingo y blaned Mawrth

Cyfarwyddiadau

Dewiswch 24 o eiriau geirfa o restr benodol (sef rhan o'r ‘Eirfa' o bosibl) ac ysgrifennwch bob un mewn sgŵar ar wahân. Cewch roi'r geiriau mewn unrhyw drefn a ddymunwch.

Gwrandwch ar y ‘cliwiau’ a fydd yn cael eu darllen. Os yw'r gair sy'n cyfateb i'r cliw (neu'r diffiniad) gennych, marciwch y gair i ddangos eich bod wedi'i baru. Ar ôl llenwi rhes gyfan (ar draws, yn fertigol neu ar letraws) gweiddwch “bingo!”.

Tabl Bingo

Bingo Mawrth

Rhestr Geiriau

  1. Olympus Mons
    Y llosgfynydd mwyaf ar y blaned Mawrth (ac yng nghysawd yr Haul!). Mae Olympus Mons yn 16 milltir o uchder (tua thair gwaith yn uwch na Mynydd Everest, y mynydd uchaf ar y Ddaear).
  2. Valles Marineris
    Y system ceunentydd hiraf ar y blaned Mawrth (ac yng nghysawd yr Haul!). Mae'r ceunant yma tua 2500 milltir o hyd ac yn mynd mor ddwfn â 3 i 6 milltir mewn mannau.
  3. Carbon Deuocsid
    Nwy, prif gynhwysyn (dros 95%) atmosffer Mawrth.
  4. Y Blaned Goch
    Llysenw Mawrth. Fe gafodd hi'r llysenw yma oherwyd y llwch coch sydd dros y blaned ac sy'n helpu i roi ei lliw iddi. Y prif gemegyn sy'n rhoi'r lliw yma yw haearn ocsid.
  5. Phobos
    Lleuad fwyaf Mawrth. Mae'r enw yn golygu “ofn”.
  6. Deimos
    Lleuad leiaf Mawrth. Mae'r enw yn golygu “braw”.
  7. Prif lwyth
    Unrhyw beth y gall cerbyd sy'n hedfan (fel roced) ei gario yn ychwanegol at y pethau sy'n angenrheidiol er mwyn iddo weithio wrth hedfan. Wrth hedfan i'r blaned Mawrth, mae hyn yn cynnwys offer gwyddonol a cherbydau i grwydro'r blaned.
  8. Capanau'r Pegynau
    Mae'r rhain i'w gweld ym mhegwn y Gogledd a Phegwn y De ar y blaned Mawrth ac maen nhw wedi'u ffurfio o ddŵr wedi'i rewi a rhew Carbon Deuocsid.
  9. Sol
    Un diwrnod ar y blaned Mawrth. (tua 24.7 awr).
  10. 10 m/s2
    Gwerth cyflymiad oherwydd disgyrchiant ar y Ddaear (ond nid ar y blaned Mawrth!).
  11. Hydrogen
    Nwy sy'n adweithio â nwy ocsigen i ffurfio dŵr (a rhan allweddol o danwydd roced) (symbol cemegol: H ar gyfer atomau; H2 ar gyfer moleciwlau).
  12. egni cinetig
    Egni symudiad.
  13. Ocsigen
    Nwy y mae arnon ni ei angen er mwyn i'n celloedd sicrhau egni (symbol cemegol: O ar gyfer atomau; O2 ar gyfer moleciwlau).
  14. Ymlediad
    Y broses lle mae gronynnau'n ymledu o fan lle maen nhw mewn crynodiad uchel i fan lle maen nhw mewn crynodiad isel.
  15. Celloedd gwaed coch
    Cellodd coch mân iawn yn y gwaed sy'n cario ocsigen.
  16. Craniwm
    Yr asgwrn o amgylch yr ymennydd (prif ran y benglog).
  17. Dwysedd
    Màs y deunydd mewn cyfaint penodedig.
  18. Halwynau esgyrn
    Y deunyddiau mewn esgyrn sy'n eu gwneud yn gryf (sef calsiwm ffosffad a charbonad yn bennaf).
  19. Telesgop
    Dyfais i'n helpu i weld gwrthrychau sy'n bell i ffwrdd.
  20. Egni'r Haul
    Egni sy'n dod o'r Haul.
  21. Egni adnewyddadwy
    Egni sy'n cael ei adnewyddu drwy'r amser, hynny yw sy'n cael ei ail-greu drosodd a throsodd.
  22. Cell egni'r Haul
    Dyfais drydan sy'n cynnwys haen denau o silicon sy'n gallu dal egni'r Haul.
  23. Solid
    ‘Cyflwr mater’ lle mae'r gronynnau wedi'u pacio'n agos at ei gilydd ac yn methu symud.
  24. Nwy
    ‘Cyflwr mater’ lle mae'r gronynnau'n bell oddi wrth ei gilydd ac yn gallu symud yn rhwydd (am fod ganddynt ddigon o egni cinetig).
  25. Hylif
    ‘Cyflwr mater’ lle mae'r gronynnau'n agos at ei gilydd ond bod ganddynt ddigon o egni i symud.
  26. Cyflyrau mater
    Tri chyflwr mater yw: solid, hylif, neu nwy.
  27. Sodiwm clorid
    Halen cyffredin (NaCl).
  28. Eithafgarwr
    Organeb sy'n gallu byw mewn amgylchiadau eithriadol (er enghraifft, oer iawn neu boeth iawn).
  29. Tanwyddau ffosil
    Tanwyddau sy'n dod o'r ddaear, a gafodd eu ffurfio'n wreiddiol o organebau marw. Maen nhw'n cynnwys glo, olew a nwy.
  30. Anadlu
    Y broses lle mae'r ysgyfaint yn cymryd i mewn aer sy'n cynnwys ocsigen, ac yn rhoi allan aer sy'n cynnwys carbon deuocsid.
  31. Resbiradaeth gellog
    Y broses lle mae celloedd yn defnyddio ocsigen a bwyd i gynhyrchu egni.
  32. Atmosffer
    Yr haen o nwyon o amgylch y Ddaear. Ar lefel y môr, mae'r haen yma'n cynnwys tua 80% o nitrogen, ac 20% o ocsigen.