Gweithgaredd 4
Gwneud Telesgop
Mae'n weddol hawdd gwneud telesgop syml drwy ddefnyddio cyfarpar yn labordy'r ysgol. Dwy lens amgrom fydd rhannau pwysicaf eich telesgop: mae'r rhain yn gallu chwyddo delweddau.
Cyfarpar a deunyddiau
I bob dysgwr neu grŵp o ddysgwyr:
- Dwy lens amgrom: y naill yn ‘gryf’ (e.e. +14D), a'r llall yn ‘wan’ (e.e. +2.5D).
- Plastisin neu Blu-tack.
- Pren mesur un metr.
- Bwlb trydan a daliwr bwlb, neu lamp syml (â ffilament, yn ddelfrydol).
- Darn o bapur tenau (e.e. papur dargopïo).
Diogelwch
Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.
- Gall y bwlb neu'r lamp fod yn boeth – cymerwch ofal wrth eu trafod.
- PEIDIWCH AG EDRYCH AR YR HAULgallech wneud niwed i'ch llygaid drwy ddefnyddio'ch ‘telesgop’ neu lensys unigol i wneud hyn.
Dull
Ar un pen i'ch pren mesur, gosodwch y lens amgrom ‘wan’ â phlastisin neu Blu-Tack. Dyma'ch lens ‘gwrthrych'.
- Gofalwch eich bod yn tywyllu'r ystafell drwy ddiffodd unrhyw oleuadau, a chau bleindiau neu lenni.
- Cynheuwch y bwlb/lamp.
- Addaswch safle'ch pren mesur a'r lens fel eich bod yn gallu edrych ar y bwlb/lamp drwy'r lens. Gallai un aelod o'r grŵp ddal darn o bapur dargopïo ar ochr y ‘person’ i'r lens er mwyn ichi weld delwedd o'r lamp.
-
Nawr mae angen ichi ychwanegu'r ail lens, y lens ‘gryf’, a fydd yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith chwyddo. Dyma'r 'sylladur' neu'r lens y byddwch yn edrych drwyddi, ac mae angen gosod hon ym mhen arall y pren mesur, yn agos i'ch llygad (gan ddefnyddio plastisin neu Blu-Tack eto). Unwaith eto, gallai un aelod o'r grŵp ddal darn o bapur dargopïo y tu ôl i'r sylladur yma, er mwyn ichi gael gweld y ddelwedd o'r sylladur ac addasu ei safle nes bod y ddelwedd mewn ffocws.
- Nawr mae'r ddwy lens yn eu lle gennych, ac mae'ch telesgop wedi'i wneud! Bellach dylai fod modd ichi weld y bwlb (a'i ffilament os oes un ynddo) heb fod angen y papur dargopïo. Mae'n debyg y bydd angen ichi ddefnydido un llygad yn unig. Nawr gallwch ddefnyddio'ch telesgop i weld gwrthrychau eraill: bydd angen gosod y rhain yn yr un lle â'r bwlb, ac os oes modd fe ddylen nhw gael eu goleuo.