Mae rocedi'n creu gwthiad y tu mewn i'w hinjenni pan fydd tanwydd roced yn llosgi. Mae angen llawer o danwydd: mae pwysau'r tanwydd cyn cael ei danio chwe gwaith yn fwy na phwysau'r roced! Yn ystod y llosgi (neu'r 'hylosgi'), mae nwyon gwastraff (nwyon 'llosg') yn dod allan o waelod y roced i lawr tuag at y Ddaear a hynny'n gyflym iawn.
Effaith y nwyon llosg hyn yw gyrru'r roced yn y cyfeiriad arall, i fyny ac i ffwrdd o'r Ddaear, fel y gallwch weld yn y fideo canlynol:
Gan ddefnyddio'r data yn y tabl, atebwch y cwestiynau isod. Sylwch: ystyr 'Màs Terfynol' yw'r màs ar ôl i'r llong ofod gael ei lansio
Cerbyd | Màs adeg Codi (kg) | Màs Terfynol (kg) |
Ariane 5 | 746,000 | 18,700 |
Titan 23G | 117,020 | 4,760 |
Saturn V | 3,038,500 | 131,300 |
Y Wennol Ofod | 2,040,000 | 132,800 |
Concorde | 181,000 | 90,500 |
Boeing 747 | 363,000 | 181,500 |
Nesaf, allwch chi lusgo marciwr pwynt pob cerbyd i'r lle isod, er mwyn creu graff gwasgariad cyflawn?
Awyren uwchsonig oedd ‘Concorde’. Mae rhagor o wybodaeth amdani ar gael yma:
Mynnwch ragor o wybodaeth >Oeddech chi'n gwybod bod rhai awyrennau ‘Airbus’ yn cael eu gwneud yng Ngogledd Cymru?
Mynnwch ragor o wybodaeth >Mae adeiladu rocedi, a threfnu lansio rocedi, yn fusnes cymhleth iawn a chostus iawn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yn y dasg ymchwil isod: