1
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 1

Modelu cysawd yr Haul ar iard yr ysgol

Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn gweithio gyda graddfeydd er mwyn gosod planedau ar iard yr ysgol mewn safleoedd sy'n cyfateb i'w pellter cymharol o'r Haul. Y peth gorau yw gweithio mewn grŵp.

Modelu planedau

Fe allech wneud hyn yn syml iawn, drwy farcio'u safleoedd (e.e. â sialc), neu drwy ddefnyddio model syml, neu drwy osod aelodau'r grŵp yn y safleoedd cywir!

Os ydych yn creu model, bydd angen ichi wybod maint y blaned, ac yn enwedig ei diamedr, ac oherwydd bod y planedau'n anferth, bydd angen ichi weithio wrth raddfa. Gall eich athro neu'ch athrawes eich helpu gyda hyn.

Mae diamedr pob planed (km) wedi'i nodi yn y tabl isod:

PlanedDiamedr (km)
MERCHER 4 879
GWENER 12 104
Y DDAEAR12 756
MAWRTH6 792
IAU142 984
SADWRN120 536
WRANWS51 118
NEIFION49 528
PLWTON2 370

Canfod safle'r planedau

Bydd eich athro neu'ch athrawes:

Bydd pob grŵp yn cael planed (a/neu leuad). Wedyn bydd y grŵp yn cyfrif pellter ei blaned ar y raddfa, ac felly ble dylai'r blaned gael ei gosod o'i chymharu â'r 'Haul' ar yr iard. Mae pellter pob planed o'r Haul i'w weld yn y tabl isod ( x 106 km ):

PlanedPellter i'r Haul (1 000 000 km)
MERCHER 57.9
GWENER 108.2
Y DDAEAR149.6
MAWRTH227.9
IAU778.6
SADWRN1 433.5
WRANWS2 872.5
NEIFION4 495.1
PLWTON5 906.4

Wedyn fe allech fynd ati i ail-greu patrwm cylchdroi eich planed. Bydd hynny'n eich helpu i ddeall pam mae'r pellter rhwng y planedau'n newid ar wahanol adegau (e.e. o'r Ddaear i'r blaned Mawrth)