Gweithgaredd 7
Archwilio Sleidiau Gwaed
Yn y gweithgarwch hwn, byddwch yn defnyddio meicrosgop i edrych ar ‘rwbiad’ o waed mamal. Pan fydd gwaed yn cael ei rwbio ar sleid meicrosgop, mae'n cael ei daenu'n denau iawn er mwyn inni weld cymaint ag y bo modd.
Diogelwch
Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.
- Os byddwch yn defnyddio lampau yn ystod y gweithgaredd yma, fe allen nhw fynd yn boeth iawn.
Dull
- Gosodwch eich meicrosgop gan ddilyn cyfarwyddiadau'ch athro neu'ch athrawes. Dechreuwch â chwyddiad isel, ac addasu'r ffocws nes eich bod yn gallu gweld delwedd. Bydd agen ichi newid ongl y drych fel bod golau'n cael ei adlewyrchu i mewn i'r meicrosgop (naill ai o lamp, neu olau drwy'r ffenestr). Nodwch yr hyn y gallwch ei weld â chwyddiad isel.
- Nawr newidiwch y chwyddiad i'r lefel nesaf, ffocysu, a nodi'r hyn y gallwch ei weld.
- Yn olaf, defnyddiwch y chwyddiad uchaf. Gyda'r chwyddiad yma mae'n fwy anodd ffocysu, a bydd angen ichi ddefnyddio'r addasiad ffocysu mân. Pan allwch chi weld delwedd glir, ceisiwch dynnu llun ohoni.
Trafodaeth
- Beth allwch chi ei ddweud am faint y celloedd mewn gwaed?
- Beth allwch chi ei ddweud am nifer y celloedd mewn gwaed?
- Ydy'r holl gelloedd yn edrych yr un fath yn union?