O'r diwedd rydych chi wedi glanio ar y blaned Mawrth! Nawr mae angen dysgu mwy am y blaned sy'n mynd i fod yn gartref ichi am beth amser.
Sut byddwch chi'n archwilio'ch cartref newydd? Fel y gwelsoch chi ar dudalen 3, mae llongau gofod heb griw wedi cyrraedd y blaned Mawrth o'r blaen, a bydd y rhain yn rhoi syniadau ichi am sut y gallech chi archwilio Mawrth.
Un daith bwysig i'r blaned Mawrth yw taith Labordy Gwyddoniaeth Mawrth gan NASA, a ddechreuodd yn 2011. Ar 6 Awst 2012, cafodd cerbyd o'r enw ‘Curiosity’ ei osod i lawr yn y ‘Crater Gale' ar y blaned Mawrth. Mae gan y robot yma olwynion ac mae'n gallu crwydro o gwmpas a chasglu gwybodaeth.
NASA
NASA/JPL-CALTECH/ASU
Mae Curiosity wedi gyrru rhyw wyth milltir ar draws wyneb Mawrth ers glanio yn 2012. Dydy hynny ddim yn swnio'n bell, ond mae'n bell i robot bach mewn amgylchedd anodd! Mae'n anelu am ran o'r blaned Mawrth o'r enw Mynydd Sharp. Ar 27 Gorffennaf 2016, sef diwrnod rhif 1412 ar ôl glanio, roedd Curiosity ar y smotyn melyn isaf yn y llun isod, ac mae'r smotyn melyn nesaf i fyny yn y llun yn dangos ble roedd Curiosity ar ddiwrnod 1410. Mae'r bar graddfa ar y llun yn rhoi syniad ichi o'r pellter, ac mae'r cyfeiriad yn cael ei ddangos gan bwyntiau'r cwmpawd. Edrychwch ar y llun, ac atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.
Y ddelwedd gan: NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
Eisiau rhagor o wybodaeth am leoliad diweddaraf Curiosity?
Mynnwch ragor o wybodaeth >