Mae ocsigen yn helpu i roi egni i'r holl gelloedd yn ein corff (mae arnon ni angen bwyd hefyd i roi egni). Heb ocsigen, does gan y celloedd ddim egni. Mae hynny'n golygu, er enghraifft, nad yw'r celloedd mewn cyhyrau yn gallu'n helpu i symud; nad yw celloedd mewn nerfau yn gallu mynd â negeseuon yn ôl ac ymlaen i'r ymennydd; nad yw'r celloedd yn y llygaid yn gallu prosesu'r goleuni sy'n eu cyrraedd. A dweud y gwir, heb egni, buan y bydd y celloedd yn marw.
Mae'n bwysig hefyd fod sylweddau gwastraff yn cael eu symud o'r celloedd, ac mae'r cwestiynau isod yn gofyn am un o'r sylweddau hyn.
Ceisiwch ganfod yr atebion i'r cwestiynau canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – sawl ateb cywir gawsoch chi?