NASA/KSC
Bydd angen ichi dyfu'ch bwyd chi'ch hun ar y blaned Mawrth: rhaid ichi fynd yn ffermwr!
Ond dyw'ch fferm chi ddim yn debygol o edrych yn debyg i unrhyw fferm yng Nghymru! Sut beth fydd hi?
Ceisiwch ganfod yr atebion i'r cwestiynau canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – sawl ateb cywir gawsoch chi?
Gallai'ch fferm chi ar y blaned Mawrth edrych rywbeth yn debyg i'r tŷ gwydr mawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Mynnwch ragor o wybodaeth >Plannu hadau yw'r cam cyntaf wrth ddechrau ffermio. Os yw'r amgylchiadau'n iawn, bydd yr hadau'n egino, a bydd planhigion yn dechrau tyfu.
Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn gorffen paragraff sy'n esbonio gwaith y prif rannau mewn planhigyn. Llenwch y bylchau drwy deipio'r gair cywir o'r rhestr:
Yr enw ar ran uchaf, wyrdd, planhigyn yw'r . Mae dail yn tyfu arno, a gwaith y dail yw creu . I wneud hynny, mae angen i'r planhigyn gymryd y nwy i mewn.
Yr enw ar rannau isaf, golau, planhigyn yw'r . Un o dasgau'r rhain yw cymryd i mewn o'r pridd, a bydd hyn yn teithio i'r dail i'w helpu i greu bwyd.