13.
13
+ _

Weithiau, bydd angen ichi adael eich llong ofod, er enghraifft i wneud gwaith trwsio y tu allan.

Sut gallech chi'ch amddiffyn eich hun pe bai'n rhaid ichi adael y llong ofod?
Byddai angen ichi wisgo siwt ofod. Cewch ragor o wybodaeth am hyn yn y gweithgaredd ymchwil isod.
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA - Clymu Offer (2009) - Yn y gofod, rhaid clymu'r offer hyd yn oed. Mae gofodwyr bob amser yn sicrhau bod eu hoffer wedi'u clymu wrth eu siwtiau gofod i sicrhau na fyddan nhw'n diflannu i'r gofod.

Drwy'r rhan fwyaf o'r daith byddech yn aros yn y llong ofod. Byddai digon o waith gennych i'w wneud, er enghraifft gwirio bod yr offer i gyd yn gweithio'n gywir, ond wrth gwrs fe fyddai angen ichi fwyta, cysgu ac ymarfer corff. Yn y gweithgaredd ymchwil sy'n dilyn, byddwch yn meddwl am sut ddiwrnod gewch chi bob dydd wrth ichi deithio i'r blaned Mawrth.