Mae'r blaned Mawrth yn blaned greigiog sy'n symud (cylchdroi) o amgylch ein Haul ni yn yr un modd â'r Ddaear. Hi yw'r blaned nesaf i'r Ddaear wrth ichi symud i ffwrdd o'r Haul.
Ydych chi'n gwybod enwau pob un o'r planedau? Llusgwch y labeli yn y rhestr isod i flwch y blaned gywir!
Dwy blaned yn unig yw'r Ddaear a Mawrth, ymysg nifer o blanedau sy'n ffurfio cysawd ein Haul ni (y planedau a'r adeileddau eraill sy'n cylchdroi o amgylch yr Haul yw'r cysawd). Mae'r planedau hyn i gyd yn wahanol iawn, er enghraifft mae eu maint yn wahanol, maen nhw wedi'u gwneud o ddeunyddiau gwahanol, ac mae llwybr eu cylchdro yn wahanol. Rydyn ni'n gwybod llawer am y Ddaear, ond ychydig bach yn unig am y planedau eraill. Yn yr ymarfer ymchwil isod, byddwch yn dysgu rhagor amdanyn nhw, yn enwedig Mawrth!
Edrychwch ar y data yn y tabl, ac wedyn atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.
Mercher | Gwener | Y Ddaear | Mawrth | Iau | Sadwrn | Wranws | Neifion | Plwton | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Màs (1 000 000 000 000 000 000 000 000 kg) | 0.330 | 4.87 | 5.97 | 0.642 | 1898 | 568 | 86.8 | 102 | 0.0146 |
Diamedr (km) | 4879 | 12,104 | 12,756 | 6792 | 142,984 | 120,536 | 51,118 | 49,528 | 2370 |
Dwysedd (kg/m3) | 5427 | 5243 | 5514 | 3933 | 1326 | 687 | 1271 | 1638 | 2095 |
Disgyrchiant (m/s2) | 3.7 | 8.9 | 9.8 | 3.7 | 23.1 | 9.0 | 8.7 | 11.0 | 0.7 |
Hyd y Diwrnod (mewn oriau) | 4222.6 | 2802.0 | 24.0 | 24.7 | 9.9 | 10.7 | 17.2 | 16.1 | 153.3 |
Pellter o'r Haul (1 000 000 km) | 57.9 | 108.2 | 149.6 | 227.9 | 778.6 | 1433.5 | 2872.5 | 4495.1 | 5906.4 |
Cyfnod y Cylchdro (mewn diwrnodau) | 88.0 | 224.7 | 365.2 | 687.0 | 4,331 | 10,747 | 30,589 | 59,800 | 90,560 |
Tymheredd Cymedrig (C) | 167 | 464 | 15 | -65 | -110 | -140 | -195 | -200 | -225 |
Nifer y Lleuadau | 0 | 0 | 1 | 2 | 67 | 62 | 27 | 14 | 5 |