15.
15
+ _

Rydych chi wedi bod yn teithio drwy'r gofod, ac erbyn hyn yn agosáu at y blaned Mawrth. Beth fyddwch chi'n ei weld?

1
Fyddech chi'n gweld cefnforoedd o ddŵr ar wyneb y blaned Mawrth?
2
Fyddech chi'n gweld craterau yn debyg i'r rhain ar ein lleuad ni?
3
Oes llosgfynyddoedd ar y blaned Mawrth?
4
Oes llosgfynyddoedd gweithredol ar y blaned Mawrth?
5
Allech chi weld cymoedd neu geunentydd ar y blaned Mawrth?

Rhagor o wybodaeth!

Chwiliwch am ragor o wybodaeth am ddaearyddiaeth y blaned Mawrth ar fap rhyngweithiol NASA yma:

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Nawr labelwch eich map chi o'r blaned Mawrth!

Llusgwch yr enwau yn y rhestr isod i'w lle cywir ar ddelwedd o'r blaned Mawrth

Rhagor o wybodaeth!

Mae gan un cwm ar y blaned Mawrth enw Cymraeg ‘Mawrth Vallis’!

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Un nodwedd sy'n glir iawn ar y blaned Mawrth yw ‘Valles Marineris’, neu 'Gymoedd y Morwyr’, sy'n system enfawr o geunentydd sy'n rhedeg ar hyd rhan o gyhydedd y blaned Mawrth (sef llinell o amgylch canol y blaned). O'ch llong ofod, byddai'n edrych fel y llun yma:

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Drwy garedigrwydd NASA/JPL-Caltech.

Mae Valles Marineris tua 4000 km o hyd, 500km o led, ac 8km o ddyfnder. O ran cymhariaeth, mae'r Hafn Fawr yn Unol Daleithiau America tua 800 km o hyd, 30km o led, ac 1.6km o ddyfnder. Defnyddiwch yr wybodaeth yma i ateb y cwestiynau isod.

1
Faint yn hirach na'r Hafn Fawr yw Valles Marineris?
km
2
Beth yw arwynebedd Valles Marineris?
km2
3
Sawl gwaith yn ddyfnach na'r Hafn Fawr yw Valles Marineris?
gwaith yn ddyfnach
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Chensiyuan

Rhagor o wybodaeth!

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am Valles Marineris ar wefan NASA!

Mynnwch ragor o wybodaeth >