11
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 11

Puro Dŵr i Bobl ei Yfed

Pan fyddwch chi ar y blaned Mawrth, mae arnoch chi angen dŵr yfed glân. Rydych chi wedi sicrhau dŵr o'r capanau rhew yn y pegynnau, ond yn amau nad yw'r dŵr yma'n bur ac yn ddiogel i'w yfed. Gallwch weld bod y dŵr ychydig yn fwdlyd, a bod cerrig mân a gronynnau eraill ynddo. Rydych chi'n credu hefyd fod halen (sodiwm clorid) wedi toddi yn y dŵr. Mae arnoch chi angen ffyrdd i dynnu'r amhureddau o'r dŵr.

Cynllunio

Mae angen ichi gynllunio dau weithgaredd:

Gweithgaredd 1: Sut gallech chi dynnu cerrig mân o ddŵr? Beth am ronynnau mân iawn? Ysgrifennwch eich syniadau am beth i'w wneud (Dull), a'r pethau y bydd eu hangen (Cyfarpar). Beth rydych chi'n disgwyl ei weld, a sut byddwch chi'n cofnodi'ch canlyniadau?

Gweithgaredd 2: Erbyn hyn mae'n bosibl bod y dŵr yn edrych yn lân, ond allwch chi ddim gweld a oes halen wedi toddi ynddo. Sut gallech chi gael gwybod, a sut gallech chi wahanu'r halen a'r dŵr? (Meddyliwch am leoedd ar lan y môr yn ne Ewrop a'r Dwyrain Canol lle mae halen yn cael ei gynhyrchu). Bydd arnoch angen cyfarpar i'ch helpu i gasglu dŵr: gofynnwch i'ch athro neu'ch athrawes roi cyngor ichi. Beth rydych chi'n disgwyl ei weld, a sut byddwch chi'n cofnodi'ch canlyniadau?

Gweithredu

Gweithgaredd 1: Tynnu cerrig mân a gronynnau o ddŵr

Un ffordd gymharol hawdd o dynnu gronynnau a malurion o ddŵr yw hidlo'r dŵr. Mae amryw o fathau o hidlyddion a allai gael eu defnyddio:

Cyfarpar a deunyddiau angenrheidiol

(i bob grŵp, dosbarth, neu ddysgwr)

Diogelwch

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Dull (gweler y diagram):

Cam 1: Torrwch y gwaelod oddi ar y botel. Gorchuddiwch y geg â sawl haen o liain caws a'u clymu â band lastig. Daliwch y botel yn ei lle, ben i waered, â'i cheg uwchben gwydr i ddal y dŵr sydd wedi'i hidlo.

Cam 2: Llenwch y botel â 5-8 cm o siarcol. Gosodwch 8-10 cm o dywod ar ben y siarcol. Rhowch 5-8 cm o ro ar ben y tywod.

Cam 3: Trowch y dŵr mwdlyd a'i arllwys i'r hidlydd. Gwyliwch yn ofalus wrth i'r dŵr dreiddio i lawr drwy'r tair haen hidlo o ro, tywod a siarcol.

Delwedd o'r Gweithgaredd Ymarferol
  1. gro
  2. tywod
  3. siarcol
  4. lliain caws

Trafodaeth

Gweithgaredd 2: Tynnu halen o ddŵr

Pe baech chi'n gadael diferyn o ddŵr hallt iawn ar wydr watsh am ddiwrnod neu ddau, beth fyddech chi'n ei weld? Fe allech chi weld marc gwyn, gwan, sef halen (sodiwm clorid). Beth sy wedi digwydd i'r dŵr? Mae wedi anweddu.

Mae'n hawdd iawn gwahanu halen a dŵr er mwyn gadael halen. Gall dŵr gael ei dwymo i wneud iddo anweddu, ac nid yw halen yn anweddu. Er hynny, mae'n fwy anodd gwahanu halen a dŵr mewn ffordd sy'n gadael ichi gadw'r dŵr. Galwch wneud hyn yn y broses o'r enw ‘distyllu' ac mae'n bosibl y gall eich athro neu'ch athrawes ddangos cyfarpar distyllu. Gallwch wneud gwaith distyllu syml fel hyn:

Diogelwch:

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Cyfarpar

Dull

Canlyniadau

Beth welwch chi' digwydd yn y ddau ficer?

Trafodaeth