Yn y gofod, yn y rhan fwyaf o adrannau'r llong ofod, byddech yn arnofio o'r naill le i'r llall (ond bach iawn fyddai'r llong ofod, felly fyddech chi ddim yn mynd yn bell!). Oherwydd hyn, fyddai dim angen ichi sefyll, a fyddai dim angen eich esgyrn i'ch cynnal gymaint ag arfer. Mewn sefyllfa fel hyn, mae eich esgyrn yn mynd yn fwy tenau ac yn fwy gwan.
Heb ddisgyrchiant, mae esgyrn yn dechrau colli eu halwynau (dihalwyno). Gall maint yr asgwrn aros yr un fath, ond mae'r halwynau esgyrn wedi'u gwasgaru'n fwy y tu mewn i'r asgwrn: mae hynny'n golygu bod yr esgyrn yn mynd yn llai dwys (neu, mewn geiriau eraill, mae dwysedd yr esgyrn yn gostwng).
Dychmygwch fod gennych dri chiwb plastig o'ch blaen, bob un yr un maint yn union, ond pob un wedi'i lenwi â deunydd gwahanol: plwm, corc ac aer.
Pan fydd asgwrn yn colli halwynau esgyrn, mae golwg yr asgwrn yn newid, a gallwch weld hyn yn y ddelwedd isod. Mae'n dangos tameidiau (trychiadau) o asgwrn o bobl wahanol, bob un â lefelau gwahanol o halwynau esgyrn. Defnyddiwch y llun i ateb y cwestiynau sy'n dilyn:
Gallwn gyfrifo dwysedd unrhyw ddeunydd drwy ddefnyddio'r fformiwla isod:
Dychmygwch eich bod yn batholegydd mewn ysbyty (yn archwilio cyrff marw!). Rydych chi wedi cael sampl o asgwrn, ac mae angen ichi ddarganfod ei ddwysedd. Cyfaint yr asgwrn yw 10 cm3, a'i fàs yw 15g. Mae'r enghraifft isod yn dangos ichi sut i gyfrifo gwerth dwysedd:
y cyfaint yw 10 cm3; y màs yw 15g. dwysedd = màs ÷ cyfaint dwysedd = 15 ÷ 10 dwysedd = 1.5 g/cm3
Mae'r tabl isod yn dangos rhagolygon gwerthoedd dwysedd esgyrn gofodwr a fydd yn treulio pum mlynedd ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Cafodd y mesuriad cyntaf ei wneud cyn cyrraedd yr orsaf ofod (hynny yw, pan oedd y gofodwr yn dal ar y Ddaear):
Amser ar yr Orsaf Ofod (blynyddoedd) |
Dwysedd yr esgyrn (g/cm3) |
---|---|
0 | 1 |
1 | 0.9 |
2 | 0.8 |
3 | 0.67 |
4 | 0.55 |
5 | 0.42 |
Nawr, gan ddefnyddio papur graff, lluniwch eich graff, gan ddechrau â'r ddwy echelin