Gweithgaredd 5
Pa ffactorau sy’n effeithio ar allbwn cell egni Haul?
Mae'r gweithgaredd hwn yn edrych ar ffactorau sy'n efefithio ar allbwn cell egni Haul
Cyfarpar a deunyddiau
Bydd ar bob grŵp angen:
- Foltmedr
- Uned cell egni Haul
- Lamp pen desg (e.e. lamp twngsten 40 neu 60 W)
- Ceblau cyslltu
- Pren mesur un metr
Diogelwch
Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.
- Gall lampau pen desg â gorchudd metel fod yn boeth iawn. Cymerwch ofal wrth eu symud.
Dull
Yn gyntaf, diffoddwch y goleuadau yn y stafell, neu caewch y bleindiau/llenni i sicrhau bod y stafell yn eithaf tywyll.
- Cysylltwch eich panel egni Haul â foltmedr gan ddefnyddio'r ceblau.
- Cynheuwch y lamp a'i gosod yn agos i'r gell egni Haul. Mesurwch y pellter rhyngddyn nhw a chofnodwch hyn yn y tabl isod.
- Nawr edrychwch ar y foltmedr, a chofnodwch y foltedd yn eich tabl. (DS: os nad yw'r foltmedr yn dangos foltedd, gwiriwch y ceblau, a/neu rhowch wybod i'ch athro neu'ch athrawes.)
- Nawr, symudwch y lamp 10cm ymhellach i ffwrdd o'r gell egni Haul, gan ddefnyddio'r pren mesur i fesur y pellter. Mesurwch y foltedd eto, a'i gofnodi yn eich tabl.
- Gwnewch yr un fath eto sawl gwaith, ychydig ymhellach i ffwrdd bob tro, nes bod y foltedd sy'n cael ei fesur yn isel iawn.
Pellter rhwng y gell egni Haul a'r lamp (cm) |
Foltedd (Foltau) |
| |
| |
| |
| |
Trafodaeth
Allwch chi esbonio'r canlyniadau a gawsoch chi?
Allwch chi feddwl am ffactorau eraill i ymchwilio iddyn nhw a allai effeithio ar allbwn cell egni Haul?
O dan ba fath o amgylchiadau y bydd celloedd egni Haul yn gweithio ar eu gorau i gynhyrchu trydan?
Pa fath o broblemau a allai godi mewn gwledydd fel Cymru wrth ddefnyddio celloedd egni Haul i gynhyrchu trydan i gartrefi a ffatrïoedd?