5
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 5

Pa ffactorau sy’n effeithio ar allbwn cell egni Haul?

Mae'r gweithgaredd hwn yn edrych ar ffactorau sy'n efefithio ar allbwn cell egni Haul

Cyfarpar a deunyddiau

Bydd ar bob grŵp angen:

Diogelwch

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Dull

Yn gyntaf, diffoddwch y goleuadau yn y stafell, neu caewch y bleindiau/llenni i sicrhau bod y stafell yn eithaf tywyll.

  1. Cysylltwch eich panel egni Haul â foltmedr gan ddefnyddio'r ceblau.
  2. Cynheuwch y lamp a'i gosod yn agos i'r gell egni Haul. Mesurwch y pellter rhyngddyn nhw a chofnodwch hyn yn y tabl isod.
  3. Nawr edrychwch ar y foltmedr, a chofnodwch y foltedd yn eich tabl. (DS: os nad yw'r foltmedr yn dangos foltedd, gwiriwch y ceblau, a/neu rhowch wybod i'ch athro neu'ch athrawes.)
  4. Nawr, symudwch y lamp 10cm ymhellach i ffwrdd o'r gell egni Haul, gan ddefnyddio'r pren mesur i fesur y pellter. Mesurwch y foltedd eto, a'i gofnodi yn eich tabl.
  5. Gwnewch yr un fath eto sawl gwaith, ychydig ymhellach i ffwrdd bob tro, nes bod y foltedd sy'n cael ei fesur yn isel iawn.
    Pellter rhwng y gell egni Haul a'r lamp (cm) Foltedd (Foltau)

Trafodaeth

Allwch chi esbonio'r canlyniadau a gawsoch chi?

Allwch chi feddwl am ffactorau eraill i ymchwilio iddyn nhw a allai effeithio ar allbwn cell egni Haul?

O dan ba fath o amgylchiadau y bydd celloedd egni Haul yn gweithio ar eu gorau i gynhyrchu trydan?

Pa fath o broblemau a allai godi mewn gwledydd fel Cymru wrth ddefnyddio celloedd egni Haul i gynhyrchu trydan i gartrefi a ffatrïoedd?