4
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 4

Gwneud Telesgop

Mae'n weddol hawdd gwneud telesgop syml drwy ddefnyddio cyfarpar yn labordy'r ysgol. Dwy lens amgrom fydd rhannau pwysicaf eich telesgop: mae'r rhain yn gallu chwyddo delweddau.

Cyfarpar a deunyddiau

I bob dysgwr neu grŵp o ddysgwyr:

Diogelwch

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Dull

Ar un pen i'ch pren mesur, gosodwch y lens amgrom ‘wan’ â phlastisin neu Blu-Tack. Dyma'ch lens ‘gwrthrych'.

Delwedd o'r Gweithgaredd Ymarferol
  1. Gofalwch eich bod yn tywyllu'r ystafell drwy ddiffodd unrhyw oleuadau, a chau bleindiau neu lenni.
  2. Cynheuwch y bwlb/lamp.
  3. Addaswch safle'ch pren mesur a'r lens fel eich bod yn gallu edrych ar y bwlb/lamp drwy'r lens. Gallai un aelod o'r grŵp ddal darn o bapur dargopïo ar ochr y ‘person’ i'r lens er mwyn ichi weld delwedd o'r lamp.
  4. Nawr mae angen ichi ychwanegu'r ail lens, y lens ‘gryf’, a fydd yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith chwyddo. Dyma'r 'sylladur' neu'r lens y byddwch yn edrych drwyddi, ac mae angen gosod hon ym mhen arall y pren mesur, yn agos i'ch llygad (gan ddefnyddio plastisin neu Blu-Tack eto). Unwaith eto, gallai un aelod o'r grŵp ddal darn o bapur dargopïo y tu ôl i'r sylladur yma, er mwyn ichi gael gweld y ddelwedd o'r sylladur ac addasu ei safle nes bod y ddelwedd mewn ffocws. Delwedd o'r Gweithgaredd Ymarferol
  5. Nawr mae'r ddwy lens yn eu lle gennych, ac mae'ch telesgop wedi'i wneud! Bellach dylai fod modd ichi weld y bwlb (a'i ffilament os oes un ynddo) heb fod angen y papur dargopïo. Mae'n debyg y bydd angen ichi ddefnydido un llygad yn unig. Nawr gallwch ddefnyddio'ch telesgop i weld gwrthrychau eraill: bydd angen gosod y rhain yn yr un lle â'r bwlb, ac os oes modd fe ddylen nhw gael eu goleuo.