3
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 3

Ymchwilio i’r Egni mewn Tanwyddau

Yn y gweithgaredd ymarferol yma, byddwch yn darganfod faint o egni sydd mewn un neu fwy o danwyddau. Mae'n debyg mai alcoholau fydd y tanwyddau yma: efallai eich bod wedi clywed bod yna alcohol mewn diodydd fel cwrw a gwin, ond a dweud y gwir mae sawl math gwahanol o alcoholau, ac mae'r rhain yn cynnwys moleciwlau sydd ag egni cemegol wedi'i gloi ynddyn nhw.

Beth fydd ei angen? (Cyfarpar)

Delwedd o'r Gweithgaredd Ymarferol

Diogelwch

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Beth mae angen ei wneud? (Dull)

  1. Gofalwch eich bod yn gwrando ar gyfarwyddyd eich athro neu'ch athrawes ynghylch manylion y dull a'r trefniadau diogelwch.
  2. Mesurwch 100cm3 o ddŵr tap oer mewn fflasg gonigol.
  3. Clampiwch y fflasg ar uchder addas fel ei bod yn hawdd gosod llosgydd gwirodydd o dani (fel yn y diagram sy'n dangos y cyfarpar).
  4. Pwyswch y llosgydd gwirodydd (a'r clawr) sy'n cynnwys yr alcohol a chofnodwch y màs yma ac enw'r alcohol.
  5. Cofnodwch dymheredd cychwynnol y dŵr yn y fflasg.
  6. Gosodwch y llosgydd o dan y fflasg a thaniwch y wic.
  7. Gadewch i'r alcohol losgi (hylosgiad) fel ei fod yn twymo'r dŵr. Gadewch i dymheredd y dŵr godi 40°C.
  8. Rhowch y clawr yn ôl er mwyn diffodd y fflam.
  9. Pwyswch y llosgydd a'r clawr eto, a chofnodwch y màs.
  10. Cyfrifwch fàs yr alcohol sydd wedi'i ddefnyddio, drwy dynnu'r màs yng ngham 8 o'r màs yng ngham 3.
  11. Nawr ewch ati eto (gan ddefnyddio'r un faint o ddŵr oer o'r tap) gyda math arall o alcohol mewn llosgydd gwirodydd arall. Gofalwch bob tro eich bod yn gadael i'r tymheredd godi yr un faint, hynny yw 40°C.

Beth fyddwch chi'n ei weld? (Canlyniadau)

Byddwch yn ymchwilio i sawl math gwahanol o alcohol. Ar gyfer pob un, bydd angen ichi ysgrifennu:

Beth fyddai'r ffordd orau i gofnodi'r wybodaeth yma?

Beth ddigwyddodd, a pham? (Casgliad):

Dyma rai pwyntiau i feddwl amdanyn nhw: