10
!Dim ond pan fydd eich athro neu'ch athrawes ar gael i'ch goruchwylio y dylech chi wneud y gweithgaredd ymarferol yma
+ _

Gweithgaredd 10

Cyflyrau Gwahanol Dŵr

Gweithgaredd 1: Beth sy'n digwydd pan fydd dŵr yn berwi?

Yn y gweithgaredd ymarferol hwn, byddwn yn edrych yn gyntaf ar yr hyn sy'n digwydd pan fydd dŵr yn berwi ac wedyn yn ystyried beth sy'n digwydd pan fydd rhew yn toddi.

Cyfarpar

Diogelwch:

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Delwedd o'r Gweithgaredd Ymarferol
  1. bicer
  2. dŵr
  3. trybed a gauze
  4. llosgydd Bunsen
  5. mat gwres

Dull

  1. Gosodwch ficer mawr sy'n hanner llawn dŵr ar drybedd a gwe wifrog.
  2. Gosodwch thermomedr yn y bicer.
  3. Gosodwch losgydd Bunsen o dan y dŵr, a'i danio'n ofalus.
  4. Ysgrifennwch y tymheredd bob pum munud yn y tabl isod, a nodwch yr hyn y byddwch yn ei weld yn digwydd yn y dŵr bob tro.
  5. Stopiwch y cynhesu pan fydd y tymheredd yn agosáu at 100°C

Canlyniadau

Disgrifiwch yr hyn welsoch chi wrth i dymheredd y dŵr godi.

Amser (Munudau) Tymheredd (°C) Sut mae'r dŵr yn edrych

Trafodaeth

Gweithgaredd 2: Beth sy'n digwydd pan fydd rhew yn toddi?

Cyfarpar

Dewisol: llosgydd Bunsen, trybedd, gwe wifrog, mat gwrth wres, sbectolau diogelwch

Diogelwch:

Mae'r pwyntiau diogelwch yma yn sôn am y peryglon yn bennaf. Bydd angen ichi feddwl am y risg(iau) a allai godi, a sut i leihau'r risg gymaint ag y gallwch.

Delwedd o'r Gweithgaredd Ymarferol
  1. bicer
  2. rhew
  3. dŵr

Dull

  1. Gosodwch rywfaint o rew mewn bicer mawr.
  2. Gosodwch thermomedr yn y rhew a chofnodwch y tymheredd.
  3. Gadewch i'r rhew gynhesu, naill ai drwy ddefnyddio llosgydd Bunsen, neu drwy osod y bicer mewn lle cynnes.
  4. Ysgrifennwch y tymheredd bob pum munud yn y tabl isod, a nodwch yr hyn y byddwch yn ei weld yn digwydd yn y dŵr bob tro.
  5. Stopiwch gofnodi pan nad oes modd gweld rhagor o rew

Canlyniadau

Disgrifiwch yr hyn welsoch chi wrth i dymheredd y rhew godi

Amser (Munudau) Tymheredd (°C) Sut mae'r rhew yn edrych

Trafodaeth

Pwyntiau Cryno:

Yn ystod y gweithgaredd ymarferol yma rydych chi wedi gweld tri chyflwr ffisegol dŵr.