7.
7
+ _

Rydych chi newydd gael eich dethol i fod yn un o'r gofodwyr cyntaf i fynd i'r blaned Mawrth! Cyn ichi gyrraedd Mawrth, byddwch yn teithio mewn llong ofod am o leiaf dri mis. Pa newidiadau fydd rhaid ichi ymdopi â nhw wrth fyw yn y gofod? Sut bydd eich bywyd bob dydd yn wahanol?

Rhagor o wybodaeth!

Roedd rhaid i'r gofodwr o Brydain, Tim Peake, wybod sut i ymdopi â bywyd yn y gofod pan gychwynnodd ar ei daith ar 15 Rhagfyr 2015, ar ei ymweliad chwe mis â'r Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS). Sut allech chi ddarganfod mwy? Os ydych chi'n chwilio ar-lein, pa bwyntiau pwysig y dylech chi gadw mewn cof cyn i chi ddechrau?

Gadewch inni ddechrau drwy feddwl am beth sy'n digwydd o'ch cwmpas chi wrth i'ch llong ofod adael planed y Ddaear. Yn gyntaf oll, rhaid i'r llong ofod basio drwy haenau atmosffer y Ddaear cyn cyrraedd y gofod ei hun. Y 'troposffer' yw'r enw ar yr haen yn yr atmosffer sydd agosaf at y Ddaear, a'r enw ar yr haen nesaf wedyn yw'r 'stratosffer'.

Gadael y Ddaear

Cliciwch ar y labeli o dan y llun isod i weld pob haen, ac atebwch y cwestiynau sy'n ymddangos.

QR Code / Côd QR

Cliciwch y blwch hwn neu defnyddiwch y cod QR uchod i gael rhagor o wybodaeth am yr haen osôn

Rhagor am Oleuni'r Gogledd:

Beth yw goblygiadau'r wybodaeth yma i chi yn eich llong ofod?

Wrth ichi symud i ffwrdd o atmosffer y Ddaear ac i'r gofod ei hun, fydd dim aer gennych, ac felly dim ocsigen. Bydd grym disgyrchiant yn gostwng i sero. Weithiau bydd hi'n teimlo'n boeth iawn, ac weithiau'n oer iawn. Hefyd, byddwch yn agored i ymbelydredd cosmig (ar y Ddaear, rydyn ni'n cael ein diogelu rhag ymbelydredd cosmig fel arfer gan atmosffer a maes magnetig y Ddaear).

Rhagor o wybodaeth!

Am wybod rhagor am ymbelydredd cosmig a'i effeithiau ar y corff dynol?

Mynnwch ragor o wybodaeth >