6.
6
+ _

Mae rocedi'n defnyddio mathau gwahanol o danwydd yn eu 'systemau gyriant' i greu gwthiad, a hydrogen yw un tanwydd pwysig. Mae tanwydd hydrogen yn cynnwys llawer iawn o egni.

1
Pa fath o egni sydd ar gael mewn tanwydd fel hydrogen?
egni cemegol

Yn yr un tymheredd a phwysedd ac sydd yn yr ystafell lle rydych chi'n eistedd, nwy yw hydrogen, ond os caiff hydrogen ei oeri a'i wasgu'n galed iawn (ei gywasgu) gall droi'n hylif. Fel arfer bydd hylifau'n cymryd llai o le na nwyon, ac felly mewn roced mae tanwydd hydrogen yn cael ei storio ar ffurf hylif.

1
Beth yw fformiwla gemegol moleciwlau Hydrogen?
H
H2H
H2
H3

Pan fydd roced yn barod i gael ei lansio, mae'n cael ei 'thanio'. Hynny yw, mae'r tanwydd yn cael ei danio a'i adael i losgi. Mae'r llosgi yn golygu adwaith ag ocsigen ('ocsideiddio') sy'n rhyddhau swm aruthrol o egni, ac mae hynny'n gwthio nwyon llosg allan o waelod y roced i lawr tuag at y Ddaear yn hynod o gyflym. Mae'r nwyon llosg cyflym hyn yn gyrru'r roced oddi ar y ddaear.

1
Pa fath o egni a fyddai'n cael ei defnyddio gan nwyon llosg wrth i'r rheiny symud?
egni cinetig
2
Pa newidiadau egni sy'n digwydd pan fydd tanwydd roced yn llosgi?
Mae egni cemegol yn newid yn egni cinetig, ac mae'n newid i egni gwres a golau hefyd
3
Beth sy'n digwydd pan fydd hydrogen yn adweithio gydag ocsigen?
Mae dŵr yn cael ei ffurfio.

Diagram a ddefnyddir i gynrychioli newid egni, tebyg i'r newid sy'n digwydd wrth i danwydd roced losgi, yw diagram Sankey. Mae lled y saeth yn y diagram yn gymesur, yn fras, i'r swm o egni penodol, felly'r mwyaf trwchus y saeth, y mwyaf o egni mae'n ei gynrychioli. Llusgwch y labeli i'r diagram Sankey isod, fel ei bod yn dangos y newid egni wrth i roced gael ei lansio.

mae 100 000kJ o egni cemegol yn cael ei droi'n 60 000kJ o egni cinetig wrth lansio roced, plws 15 000kJ o egni golau ac 25 000kJ o egni gwres