5.
5
+ _
1
Sut mae rocedi'n gyrru eu hunain oddi ar y Ddaear ac i fyny i'r gofod; sut maen nhw'n creu gwthiad?
I gael yr ateb, darllenwch ragor!

Mae rocedi'n creu gwthiad y tu mewn i'w hinjenni pan fydd tanwydd roced yn llosgi. Mae angen llawer o danwydd: mae pwysau'r tanwydd cyn cael ei danio chwe gwaith yn fwy na phwysau'r roced! Yn ystod y llosgi (neu'r 'hylosgi'), mae nwyon gwastraff (nwyon 'llosg') yn dod allan o waelod y roced i lawr tuag at y Ddaear a hynny'n gyflym iawn.
Effaith y nwyon llosg hyn yw gyrru'r roced yn y cyfeiriad arall, i fyny ac i ffwrdd o'r Ddaear, fel y gallwch weld yn y fideo canlynol:

Gweithgaredd: Ymarfer Dadansoddi Data

Gan ddefnyddio'r data yn y tabl, atebwch y cwestiynau isod. Sylwch: ystyr 'Màs Terfynol' yw'r màs ar ôl i'r llong ofod gael ei lansio

CerbydMàs adeg Codi
(kg)
Màs Terfynol
(kg)
Ariane 5746,00018,700
Titan 23G117,0204,760
Saturn V3,038,500131,300
Y Wennol Ofod2,040,000132,800
Concorde181,00090,500
Boeing 747363,000181,500

Cwestiynau: Dadansoddi Data

1
Beth yw màs cychwynnol y roced Titan 23G (sef ei màs wrth gael ei lansio)?
kg
2
Faint o hyn sy'n danwydd?
kg
3
Faint o danwydd y bydd Boeing 747 yn ei ddefnyddio i gyrraedd pen y daith?
kg
4
Sawl gwaith yn fwy na phwysau'r Wennol Ofod ei hun yw pwysau tanwydd y Wennol Ofod? (1dp)
kg

Nesaf, allwch chi lusgo marciwr pwynt pob cerbyd i'r lle isod, er mwyn creu graff gwasgariad cyflawn?

Ariane 5 Màs Adeg Lansio: 746,000
Terfynol: 18,700
Titan 23G Màs Adeg Lansio: 117,020
Terfynol: 4,760
Saturn V Màs Adeg Lansio: 3,038,500
Terfynol: 131,300
Y Wennol Ofod Màs Adeg Lansio: 2,040,000
Terfynol: 132,800
Concorde Màs Adeg Lansio: 181,000
Terfynol: 90,500
Boeing 747 Màs Adeg Lansio: 363,000
Terfynol: 181,500
Màs Terfynol (kg)0 25 000 50 000 75 000 100 000 125 000 150 000 175 000 200 000
Màs adeg Codi (kg)0 500 000 1 000 000 1 500 000 2 000 000 2 500 000 3 000 000 3 500 000 4 000 000
Gwaith da!

Rhagor o wybodaeth!

Awyren uwchsonig oedd ‘Concorde’. Mae rhagor o wybodaeth amdani ar gael yma:

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Rhagor o wybodaeth!

Oeddech chi'n gwybod bod rhai awyrennau ‘Airbus’ yn cael eu gwneud yng Ngogledd Cymru?

Mynnwch ragor o wybodaeth >
1
Pe bai arian yn brin, a bod rhaid ichi benderfynu pa un o'r cerbydau hyn i'w ddefnyddio ar siwrnai fer i'r gofod, pa un fyddech chi'n ei ddefnyddio, a pham?
Concorde ac Airbus sy'n cadw'r gyfran fwyaf o'r tanwydd cychwynnol, ond awyrennau yw'r rhain, nid llongau gofod. Y Wennol Ofod yw'r llong ofod sy'n cadw'r gyfran fwyaf o'r tanwydd cychwynnol.

Mae adeiladu rocedi, a threfnu lansio rocedi, yn fusnes cymhleth iawn a chostus iawn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yn y dasg ymchwil isod:

1
Mae tanwydd roced yn ddrud iawn! Mae'n costio hyd at £40,000 i lansio pob un cilogram o lwyth (y llwyth a gludir gan y roced). Beth fyddai cost lansio llong ofod Ariane 5 sydd â màs o 746 000 kg adeg ei lansio?
746 000 x 40 000 = £29 840 000 000, neu £29 840 miliwn! (hynny yw, bron tri deg mil o filiynau o bunnoedd, neu tri deg biliwn o bunnoedd!)