4.
4
+ _

Mae popeth ar wyneb y Ddaear yn cael ei dynnu i lawr tuag at ganol y Ddaear.

Delwedd yn dangos rhywbeth yn cwympo. Oeddech chi'n gwybod bod grym afal sy'n cwympo yn gyfartal ag 1 Newton?

Cwestiynau

1
Beth yw enw'r grym sy'n creu'r dynfa hon?
2
Beth yn fras yw gwerth y cyflymiad sy'n digwydd oherwydd y grym hwn?
m/s2

Grym disgyrchiant sy'n rhoi ei bwysau i'r roced (ac i bopeth arall ar y Ddaear!). Os nad oes yna ddisgyrchiant, rydyn ni'n dweud bod gwrthrych yn 'ddibwysau' ond mae gan y gwrthrych fàs o hyd (hynny yw, y deunydd y mae wedi'i wneud ohono). Rhaid i roced greu grym 'gwthiad' cryf iawn i weithio yn erbyn pwysau'r roced er mwyn iddi ei gwthio neu ei gyrru ei hun oddi ar y tir ar ôl cael ei thanio.

Ceisiwch ganfod yr atebion i'r cwestiynau canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – sawl ateb cywir gawsoch chi?

1
I ba gyfeiriad y mae grym disgyrchiant yn gweithio?
tuag at y Ddaear
2
I ba gyfeiriad y mae grym y gwthiad yn gweithio?
oddi wrth y Ddaear

Mae'r ddau rym (gwthiad a phwysau) yn gweithio'n groes i'w gilydd, y naill tuag i fyny (gwthiad), a'r llall tuag i lawr, tuag at y Ddaear (pwysau). Yr enw ar y grym penodol sy'n codi'r roced oddi ar y Ddaear yw'r grym ' cydeffeithiol' - sef y gwahaniaeth rhwng grym pwysau a grym gwthiad. Gallwch ddarganfod gwerth y grym cydeffeithiol yma drwy dynnu pwysau'r roced o'i gwthiad, fel y gallwch weld yn y fformiwla syml isod:

Grym cydeffeithiol (R) = Grym Gwthiad (T) − Pwysau (W)
Diagram sy'n esbonio grym cydeffeithiol

Ceisiwch ganfod yr atebion i'r cwestiynau canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – sawl ateb cywir gawsoch chi?

1
Os yw pwysau roced yn 500,000N, a bod y gwthiad yn 800,000N, a fydd y roced yn llwyddo i godi oddi ar y ddaear?

Bydd, am fod y gwthiad yn fwy na'r pwysau

2
Os yw pwysau roced yn 500,000N, a bod y gwthiad yn 800,000N, beth fyddai'r grym cydeffeithiol sy'n gweithredu ar y roced i'w chodi oddi ar y ddaear?

Grym Cydeffeithiol = Gwthiad - Pwysau,

	R = T − W
	R = 800,000N − 500,000N
	R = 300,000N

Felly, y grym cydeffeithiol yw 300,000N

3
Pa rym arall neu rymoedd eraill a allai weithredu ar y roced wrth iddi gael ei lansio?

ffrithiant o nwyon yn atmosffer y Ddaear