2.
2
+ _
Delwedd o'r Ddaear a Mawrth Pren mesur, i fesur pellter Y Ddaear Mawrth

Er bod y Ddaear a Mawrth drws nesaf i'w gilydd yng nghysawd yr Haul, maen nhw'n dal yn bell, bell iawn oddi wrth ei gilydd! Mae'r union bellter yn amrywio, gan ddibynnu ble yn union mae'r ddwy blaned yn eu cylchdroeon.

Cliciwch ar y symbol gweithgarwch er mwyn gweld cwestiynau lle byddwch yn defnyddio'r llun cyntaf ar y tudalen yma, a'r pren mesur.

Roced

Pe baech chi'n gallu mynd i mewn i roced, a chychwyn am y blaned Mawrth, faint o amser fyddai hi'n ei gymryd ichi gyrraedd? Fyddai hi'n cymryd oriau? Dyddiau?


Beth rydych chi angen ei wybod er mwyn ceisio ateb y cwestiwn blaenorol?

Rydyn ni angen gwybod pa mor bell yw Mawrth.

Rydyn ni angen gwybod sut roced sydd gennym ni, pa mor bell a pha mor gyflym mae'n gallu mynd.

I gyfrifo faint o amser sydd ei angen i gyrraedd Mawrth, mae angen cymharu'r pellter sydd i'w deithio a buanedd y llong ofod rydyn ni'n ei defnyddio. Gallwn ddefnyddio'r fformiwla syml:

Amser = Pellter ÷ Buanedd

Wrth ddefnyddio'r fformiwla yma, mae angen bod yn ofalus bod yr unedau pellter yn cyd-fynd â'r unedau buanedd. Felly, er enghraifft, os yw'r pellter yn cael ei roi mewn km (cilometrau), yna dylai'r buanedd gael ei roi mewn km/h (sef 'cilometrau yr awr', ac nid mewn mya ('milltiroedd yr awr'). Mae km/h yn gallu cael ei ysgrifennu hefyd fel km h-1).

Enghraifft

Ceisiwch ganfod yr ateb i'r cwestiwn canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – oeddech chi'n gywir?

1
Mae angen imi deithio i dref 100 km i ffwrdd. Mae fy nghar i'n mynd ar 50 km/h. Faint o amser y bydda i'n ei gymryd i gyrraedd y dref?
Amser = Pellter ÷ Buanedd

Amser = 100 km ÷ 50 km/h

Felly, amser = 2 h

(hynny yw, dwy awr)