28.
28
+ _

Mae planhigion yn gallu rhoi mathau gwahanol o ddeunyddiau bwyd inni. Weithiau, dail y planhigion sy'n cael eu bwyta, er enghraifft letys a bresych. Bryd arall y gwreiddiau sy'n cael eu bwyta, er enghraifft moron, panas, swêds. Yn aml iawn, y rhan o'r planhigyn sy'n cael ei bwyta yw'r ffrwyth, er ein bod ni'n meddwl amdano fel llysieuyn. Ystyr ‘ffrwyth' yw'r rhan o'r planhigyn lle mae'r hadau'n cael eu ffurfio.

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Y ddelwedd gan Hollyanne Schnieden

  1. ffrwyth
  2. dail
  3. gwreiddiau
Allwch chi feddwl am unrhyw lysiau lle rydyn ni'n bwyta ffrwythau'r planhigyn mewn gwirionedd?
Mae'r enghreifftiau'n cynnwys ffa dringo, wylysiau, ciwcymbrau.
Allwch chi enwi planhigion lle rydyn ni'n bwyta'r hadau?
Pys; India corn; ffa haricot (ffa pob).

Mae gwyddonwyr yn credu y gallai planhigion bwyd gael eu tyfu ar y blaned Mawrth.

Mae lluniau o'r deunyddiau bwyd y gellid cael o bob un o'r planhigion yma wedi'u darparu isod. Edrychwch ar y lluniau o'r deunyddiau bwyd a gynhyrchwyd gan y planhigion, a phenderfynwch os yw'n cynnwys gwreiddyn, dail, neu ffrwyth. Yna, llusgwch a gollwng y llun i'r adran gywir.

Mae planhigion penodol yn gallu rhoi gwahanol fathau o fwyd. Er enghraifft, mae rhai mathau o blanhigion pys yn rhoi pys gwyrdd, sy'n hadau, ond rydyn ni hefyd yn gallu bwyta'r cibau cyfan (fel yn achos pys 'eira' neu 'mange-tout’ yn y llun uchod), a ffrwythau'r planhigyn yw'r rhain mewn gwirionedd. Enghraifft arall yw'r planhigyn cwinoa, sy'n gallu rhoi hadau a dail inni.

Os rhowch chi blanhigion mewn grwpiau fel yr uchod, sut gallech chi ddangos unrhyw blanhigion sy'n rhoi mwy nag un math o ddeunydd bwyd?
Gallech chi lunio diagram Venn. Byddech chi'n gosod planhigyn sy'n rhoi mwy nag un math o fwyd yn y fan lle mae dau grŵp yn gorgyffwrdd â'i gilydd.

Creu Diagram Venn

Cliciwch ar y botwm isod i agor y gynfas luniadu. Lluniwch ddiagram Venn gyda chylchoedd ar gyfer hadau, dail a ffrwyth. Wedyn ysgrifennwch enwau'r planhigion canlynol yn y cylch cywir (neu'r fan gorgyffwrdd gywir): planhigion pys; planhigion cwinoa; puprynnau; cêl, bresych (gallwch ychwanegu rhagor o hadau, dail a ffrwythau sy'n gyfarwydd ichi hefyd).

Ymarfer Ymchwil

Darllenwch y daflen ffeithiau ‘Cosmic Cuisine’ (dilynwch y ddolen isod), ac atebwch y cwestiynau canlynol:

  • Pa fath o brydau bwyd allech chi eu coginio o'r llysiau rydych chi wedi'u tyfu ar y blaned Mawrth?
  • Beth yw bwydydd ‘rhewi-sychu’, a pha ran allai'r rhain ei chwarae yn eich deiet pan fyddwch chi ar y blaned Mawrth?

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Bwyta Deiet Gytbwys

P'un a ydych chi'n byw ar y blaned Mawrth yntau'r Ddaear, fe ddylech chi fwyta deiet gytbwys, sy'n cynnwys y swm cywir o fathau penodol o fwyd. Yn y tabl isod, llenwch y bylchau i ddangos beth rydych chi'n ei wybod am dri math pwysig o fwyd, wedyn cliciwch ar fotwm y roced i gymharu'ch atebion. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen BBC Bitesize yma: http://www.bbc.co.uk/education/guides/zyjx6sg/revision