26.
26
+ _
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA/KSC

Bydd angen ichi dyfu'ch bwyd chi'ch hun ar y blaned Mawrth: rhaid ichi fynd yn ffermwr!

Ond dyw'ch fferm chi ddim yn debygol o edrych yn debyg i unrhyw fferm yng Nghymru! Sut beth fydd hi?

Ceisiwch ganfod yr atebion i'r cwestiynau canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – sawl ateb cywir gawsoch chi?

Fyddech chi'n gallu ffermio planhigion ac anifeiliaid?
Mae'n haws ffermio planhigion nag anifeiliaid, ac felly gyda phlanhigion y byddwch yn dechrau.
Fydd eich fferm chi yn yr awyr agored ar y blaned Mawrth?
Na fydd! Fel eich cartref ar y blaned Mawrth, bydd angen i'ch fferm roi cysgod ac amddiffyniad i'ch planhigion (ac i chi!), felly bydd rhaid i'r fferm fod o dan do mewn adeilad.
Fydd angen ffenestri yn adeilad eich fferm?
Bydd, bydd angen llawer o ffenestri yn adeilad eich fferm er mwyn gadael golau i mewn, yn union fel y gwydr mewn gardd ar y Ddaear.
Pam mae angen i'ch adeilad fferm adael golau i mewn?
Mae ar blanhigion angen golau i dyfu (maen nhw'n creu bwyd yn ystod ffotosynthesis).

Rhagor o wybodaeth!

Gallai'ch fferm chi ar y blaned Mawrth edrych rywbeth yn debyg i'r tŷ gwydr mawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Plannu hadau yw'r cam cyntaf wrth ddechrau ffermio. Os yw'r amgylchiadau'n iawn, bydd yr hadau'n egino, a bydd planhigion yn dechrau tyfu.

Rhannau Pwysig Planhigion

Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn gorffen paragraff sy'n esbonio gwaith y prif rannau mewn planhigyn. Llenwch y bylchau drwy deipio'r gair cywir o'r rhestr: