25.
25
+ _

Mae'ch llong ofod yn eithaf bach, felly cyn bo hir bydd angen ichi adeiladu cartref go iawn ar y blaned Mawrth. Bydd angen i'r cartref roi cysgod ichi rhag oerfel eithriadol, gwres eithriadol, ymbelydredd, a hefyd stormydd llwch! Gobeithio y bydd yn gyffyrddus hefyd, gyda gwres y tu mewn, a ffynonellau aer a dŵr.

Sut bydd eich cartref ar y blaned Mawrth yn edrych?

Pa nodweddion fydd eu hangen yn eich cartref? Cliciwch ar y botwm isod i lansio pad lluniadu. Tynnwch lun o'ch cartref ar y blaned Mawrth, ac wedyn arbedwch eich llun fel delwedd. Defnyddiwch y teclyn nodiadau er mwyn rhoi labeli ar y pwyntiau allweddol.

Ble cewch chi afael ar y deunyddiau i adeiladu'ch cartref? Efallai y byddwch yn dod â rhai deunyddiau adeiladu o'r Ddaear, ond bydd angen ichi ddysgu defnyddio'r deunyddiau creigiog ar y blaned Mawrth, ac mae'n debyg y byddwch yn defnyddio robotiaid i'ch helpu. Bydd angen ichi gynllunio sut i gael gafael ar ddigon o fwyd hefyd.

Sut byddech chi'n cael gafael ar ddŵr yfed ar y blaned Mawrth? (Efallai yr hoffech edrych yn ôl ar yr adran ‘Dŵr ar y blaned Mawrth', tudalen 23)
Fe allech chi gael dŵr drwy doddi rhew o'r pegynau (gallai hynny olygu bod rhaid teithio'n bell!)
Beth arall fyddai angen ichi ei wneud i'r rhew ar ôl ei doddi ond cyn ei fod yn ddiogel i'w yfed?
Byddai angen ei buro drwy ei hidlo a'i ddistyllu (fel yn ymarfer rhif 11).
Fyddai bwyd ar gael yn hwylus ar y blaned Mawrth?
Na fyddai! Mae gwyddonwyr yn credu nad oes planhigion nac anifeiliaid ar wyneb Mawrth.

Rhagor o wybodaeth!

Rhagor o wybodaeth am ymchwil ynglŷn â defnyddio deunyddiau creigiog ar y blaned Mawrth

Mynnwch ragor o wybodaeth >