23.
23
+ _

Rydym yn gwybod bod llawer o ddŵr ar y Ddaear, ond beth mae Curiosity wedi'i ddarganfod am ddŵr ar y blaned Mawrth?

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA/JPL-Caltech/Cornell

Ymarfer Ymchwil

Drwy ddilyn y ddolen isod i dudalen gwe NASA, gallwch weld gwybodaeth am rai o ddarganfyddiadau Curiosity. Defnyddiwch yr wybodaeth i ysgrifennu rhestr o dystiolaeth i ddangos ei bod yn bosibl bod yna ddŵr ar y blaned Mawrth, neu fod dŵr wedi bod yno yn y gorffennol.

Darllenwch am y darganfyddiadau >

Mae yna dystiolaeth i ddangos ei bod yn bosibl bod dŵr hylifol wedi bod ar y blaned Mawrth rywbryd yn y gorffennol. Mae'r ffotograff yma o Nirgal Vallis ar y blaned Mawrth yn edrych yn debyg iawn i afon â llednentydd (afonydd llai sy'n rhedeg i mewn i afon fwy), ond does dim dŵr hylifol ynddyn nhw bellach.

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA/JPL-Caltech

Serch hynny, mae gwyddonwyr yn credu bod yna ddŵr ar y blaned Mawrth o hyd, ond gan fod y tymheredd ar y blaned yn -55 ̊C ar gyfartaledd, rhew fyddai unrhyw ddŵr sydd yno.

Pam byddai dŵr yn bresennol ar ffurf rhew os yw'r tymheredd yn -55 ̊C?
Am mai 0 ˚C yw pwynt rhewi dŵr, ac os yw'r tymheredd yn is na 0 ˚C byddai'r dŵr i gyd yn rhewi.
Dim ond 0.7% mor drwchus ag atmosffer y Ddaear yw atmosffer Mawrth, ac felly mae pwysedd yr atmosffer yn isel iawn. Sut byddai hynny'n effeithio ar unrhyw ddŵr hylifol ar y blaned?
Os nad yw'r atmosffer yn gwthio i lawr, byddai'n haws i ddŵr hylifol anweddu. Dyna reswm arall pam nad oes fawr ddim dŵr hylifol ar y blaned Mawrth.

Mae'r dystiolaeth o Curiosity a chwiliedyddion eraill yn awgrymu bod yna lawer o rew ar y blaned Mawrth, yn enwedig wrth y ddau begwn (sef top a gwaelod y blaned). Mae'r ddelwedd yma'n dangos pegwn y gogledd ar y blaned Mawrth, a chafodd ei thynnu gan chwiliedydd NASA o'r enw Mars Global Surveyor:

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA/JPL-Caltech/MSSS

Rhagor o wybodaeth!

Rhagor am Ddeg Prif Ddarganfyddiad Curiosity

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Rhagor o wybodaeth!

Mae seryddwyr yn credu bod dŵr i'w gael mewn rhannau eraill o gysawd yr Haul, gan gynnwys lleuadau i Iau, o'r enw ‘Europa’ a ‘Ganymede’, a lleuad i Sadwrn o'r enw ‘Enceladus’. Darllenwch ragor am hyn yma:

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Pan fyddwch yn byw ar y blaned Mawrth, bydd arnoch chi a'r gofodwyr eraill angen cyflenwad o ddŵr yfed glân, ac fe allai'r capiau rhew yn y ddau begwn fod yn ffynhonnell dda.

Beth fyddech chi'n gorfod ei wneud i'r rhew o'r capiau rhew yn y ddau begwn er mwyn cael gafael ar ddŵr?
Pwynt rhewi dŵr yw 0 ˚C, a dyna bwynt toddi rhew hefyd. Felly, byddai angen ichi gynhesu'r rhew i dymheredd uwch na 0 ˚C

Mae'n bosibl nad dŵr pur fydd y rhew ar y blaned Mawrth. Mae'n bosibl ei fod yn cynnwys llwch, cerrig, a dyddodion eraill, ac mae'n bosibl hefyd ei fod yn cynnwys sylweddau cemegol fel halen cyffredin.

Beth yw enw cemegol halen cyffredin?
sodiwm clorid (y fformiwla gemegol yw NaCl)

Sut gallech chi buro'r dŵr o'r rhew yn y ddau begwn, er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i'w yfed? Gallwch ateb y cwestiwn yma drwy wneud yr ymarfer puro dŵr.