Un o nodau'r daith i'r blaned Mawrth, a cherbyd Curiosity, yw gweithio allan a oes unrhyw fath o fywyd ar y blaned Mawrth, neu a oes bywyd wedi bod yn y gorffennol. Un o'r camau cyntaf tuag at gyrraedd y nod yw darganfod a oes yna ddŵr ar y blaned Mawrth.
NASA
Mae gwyddonwyr yn credu bod dŵr yn hanfodol i bob organeb byw ar y Ddaear, ac i unrhyw organebau a allai fodoli ar y blaned Mawrth neu rywle arall yn y bydysawd. Pan fyddwch chi ar y blaned Mawrth, byddai'n dda gwybod a oes cyflenwad dŵr ar gael ichi gael yfed.
Bydd y gweithgaredd isod yn eich helpu i feddwl am pam mae dŵr mor bwysig ar gyfer bywyd. Rhowch dic neu groes gyferbyn â phob eitem yn y rhestr i ddangos a ydy dŵr yn bwysig i'r eitem neu beidio, ac wedyn esboniwch pam yn fyr ar y dde:
| Eitem | Tic neu Groes? | Rheswm |
|---|---|---|
| gwaed | / | |
| celloedd | / | |
| planhigion | / | |
| pysgod | / | |
| dagrau | / | |
| tywod | / | |
| pridd | / | |
| fforc | / | |
| cwmwl | / | |
| teisen | / | |
| broga | / |
Nawr gwiriwch eich atebion drwy glicio ar y roced isod!
| Eitem | Tic neu Groes? | Rheswm Posibl |
|---|---|---|
| gwaed | ✔ | Dŵr sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r plasma (hylif) mewn gwaed. |
| celloedd | ✔ | Mae dŵr yn rhan bwysig o seitoplasm mewn celloedd. |
| planhigion | ✔ | Mae dŵr yn bwysig ar gyfer ffotosynthesis, ac i gynnal planhigion. |
| pysgod | ✔ | Mae gan bysgod gelloedd a gwaed, felly mae angen dŵr arnyn nhw! |
| dagrau | ✔ | Mae dagrau'n cynnwys dŵr yn bennaf. |
| tywod | ✗ | Does dim dŵr mewn tywod sych. |
| pridd | ✔ | Yn y rhan fwyaf o briddoedd, mae dŵr yn bwysig ar gyfer planhigion ac organebau'r pridd. |
| fforc | ✗ | Does dim dŵr mewn ffyrc metel neu blastig. |
| cwmwl | ✔ | Anwedd dŵr sy'n ffurfio cymylau. |
| teisen | ✔ | Mae dŵr yn bwysig i helpu i gymysgu cynhwysion a chaniatáu i adweithiau ‘pobi' ddigwydd. |
| broga | ✔ | Mae gan frogaod gelloedd a gwaed, felly mae angen dŵr arnyn nhw! |
Gallwch weld bod arnon ni angen dŵr at lawer iawn o ddibenion. Drwy lwc, ar y Ddaear mae llawer iawn o ddŵr ar gael, y rhan fwyaf ohono yn y cefnforoedd.