1.
1
+ _

Mae'r blaned Mawrth yn blaned greigiog sy'n symud (cylchdroi) o amgylch ein Haul ni yn yr un modd â'r Ddaear. Hi yw'r blaned nesaf i'r Ddaear wrth ichi symud i ffwrdd o'r Haul.

Cysawd yr Haul

Ydych chi'n gwybod enwau pob un o'r planedau? Llusgwch y labeli yn y rhestr isod i flwch y blaned gywir!

Y DdaearIauWranwsGwenerSadwrnMawrthMercherNeifion Dangos/Cuddio y Labeli

Dwy blaned yn unig yw'r Ddaear a Mawrth, ymysg nifer o blanedau sy'n ffurfio cysawd ein Haul ni (y planedau a'r adeileddau eraill sy'n cylchdroi o amgylch yr Haul yw'r cysawd). Mae'r planedau hyn i gyd yn wahanol iawn, er enghraifft mae eu maint yn wahanol, maen nhw wedi'u gwneud o ddeunyddiau gwahanol, ac mae llwybr eu cylchdro yn wahanol. Rydyn ni'n gwybod llawer am y Ddaear, ond ychydig bach yn unig am y planedau eraill. Yn yr ymarfer ymchwil isod, byddwch yn dysgu rhagor amdanyn nhw, yn enwedig Mawrth!

Gweithgaredd: Ymarfer Ymchwil

Edrychwch ar y data yn y tabl, ac wedyn atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.

 MercherGwenerY DdaearMawrthIauSadwrnWranwsNeifionPlwton
Màs (1 000 000 000 000 000 000 000 000 kg)0.3304.875.970.642189856886.81020.0146
Diamedr (km)487912,10412,7566792142,984120,53651,11849,5282370
Dwysedd (kg/m3)54275243551439331326687127116382095
Disgyrchiant (m/s2)3.78.99.83.723.19.08.711.00.7
Hyd y Diwrnod (mewn oriau)4222.62802.024.024.79.910.717.216.1153.3
Pellter o'r Haul (1 000 000 km)57.9108.2149.6227.9778.61433.52872.54495.15906.4
Cyfnod y Cylchdro (mewn diwrnodau)88.0224.7365.2687.04,33110,74730,58959,80090,560
Tymheredd Cymedrig (C)16746415-65-110-140-195-200-225
Nifer y Lleuadau0012676227145

Ymarfer Ymchwil

1
Sawl lleuad sydd gan y blaned Mawrth?
2
Pa blaned yng nghysawd yr Haul sydd â'r diamedr mwyaf?
3
Pa blaned sydd â'r cyfnod cylchdroi byrraf, hynny yw yr amser byrraf i deithio o amgylch yr Haul?
4
Pa un yw'r drymaf: y Ddaear neu Mawrth?
5
Faint yn hirach yw diwrnod ar y blaned Mawrth nag ar y Ddaear?
o oriau
6
Faint yn bellach o'r Haul yw'r blaned Mawrth, o'i chymharu â'r Ddaear?
1 000 000 km
7
Beth yw'r gwahaniaeth yn y tymheredd rhwng y blaned Mawrth a'r Ddaear?
°C

Rhagor o wybodaeth am y blaned Mawrth!

Eisiau gwybod rhagor?

Ymchwilio >