19.
19
+ _

Yn ogystal â thynnu lluniau, mae gan y cerbyd Curiosity offer sy'n gallu mesur y tymheredd, pwysedd yr atmosffer (sef 'gwthiad' yr atmosffer ar wrthrychau ar wyneb y blaned) a lleithder (faint o ddŵr sydd yn yr aer).

Gweithgaredd Dadansoddi Data

Mae'r tabl a ganlyn yn rhoi gwybodaeth am newidiadau yn y tymheredd yng Nghrater Gale dros gyfnod o ddwy flynedd, sy'n cyfateb i ychydig yn fwy na 1200 o ddyddiau Mawrth neu ‘sol’. Cafodd y tymhered ei fesur mewn unedau ˚C (graddau Celsius). Defnyddiwch yr wybodaeth i ateb y cwestiynau sy'n dilyn.

Mae Curiosity hefyd yn gallu codi samplau o solidau (hynny yw, creigiau a phriddoedd) ar wyneb y blaned, a samplau o'r nwyon yn atmosffer Mawrth.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng solid a nwy?
Mewn solid, mae'r gronynnau wedi'u pacio'n agos iawn at ei gilydd, ond mewn nwy mae'r gronynnau'n bell oddi wrth ei gilydd ac mae ganddyn nhw'r egni i symud yn ddirwystr.
‘Solid’ a ‘nwy’ yw dau o'r ‘cyflyrau mater’. Beth yw'r trydydd cyflwr mater, a sut beth yw'r cyflwr yma?
'Hylif' yw'r trydydd cyflwr mater. Mewn hylif, mae'r gronynnau'n agos at ei gilydd, ond mae ganddyn nhw ddigon o egni ar gyfer rhywfaint o symud.

Gall Curiosity ddadansoddi'r samplau mae'n eu casglu, sy'n golygu ei fod yn gallu darganfod pa sylweddau cemegol sy'n bresennol yn y samplau (fel haearn yn llwch Mawrth). Mae gan Curiosity set o offer i wneud gwaith dadansoddi cemegol, ac mae NASA'n galw'r rhain yn Ddadansoddiadau Samplau ar y blaned Mawrth (‘Sample Analysis at Mars’) neu ‘SAM’

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA-GSFC

Rhagor o wybodaeth!

Rhowch gynnig ar ddadansoddi gan ddefnyddio SAM rhyngweithiol!

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Rhagor o wybodaeth!

Eisiau gweld fideo sy'n dangos Curiosity a SAM ar ôl un flwyddyn?

Mynnwch ragor o wybodaeth >